Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn ffodus i fyw mewn Cymru amrywiol gyda llawer o leiafrifoedd ethnig gwahanol. Wrth gwrs, mae materion anghydraddoldeb yn codi ymysg y cymunedau hynny a hefyd mewn perthynas â'r nodweddion gwarchodedig, ac yn briodol, ceir ffocws cryf iawn ar y rheini, ond credaf fod dosbarth cymdeithasol hefyd yn agwedd bwysig iawn ar anghydraddoldeb yng Nghymru ac mewn gwirionedd, mae'n torri ar draws y nodweddion gwarchodedig, er enghraifft, lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anableddau. Ceir problemau penodol, er enghraifft, gyda phlant dosbarth gweithiol gwyn o Gymru mewn ysgolion a diffyg symudedd cymdeithasol. Tybed sut y mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar y problemau penodol hynny, a'r agwedd ar anghydraddoldeb sy'n ymwneud â dosbarth cymdeithasol.