Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch i Joyce Watson am yr ymateb hwnnw, a chredaf ein bod yn gwneud cynnydd. Rwy'n falch fod yna gadair wedi'i dylunio'n arbennig i'w gwneud yn hawdd ac yn gyfforddus i famau fwydo ar y fron a bod lle dynodedig wedi'i ddarparu, ond rwy'n credu y dylem wneud mwy i sicrhau bod mamau a'r cyhoedd yn ymwybodol fod hwn yn fan lle y croesewir bwydo ar y fron. Gwn fod Joyce Watson wedi dweud bod yna arwyddion, ond rwy'n teimlo, pe baech yn dod yma i'r Senedd a'ch bod eisiau gwybod ble i fynd i fwydo eich plentyn ar y fron, na fyddai'n amlwg ar unwaith. Teimlaf y dylid gwneud mwy o ymdrechion yn y ffordd honno. Nid wyf yn gwybod a yw hi'n gallu rhoi sylwadau ar hynny.