Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch i'r Llywydd am yr ymateb. Rwy'n edrych ymlaen i'r Eisteddfod ddod i'r bae ac i'r Cynulliad, ac rwy'n edrych ymlaen yn arbennig i'r adeilad hyfryd yma, a adeiladwyd i gyhoedd Cymru, gael ei ddefnyddio at ddibenion diwylliannol yn ogystal â gwleidyddol. Roeddwn wastad yn meddwl y byddai'r Siambr yma yn gwneud Cylch yr Orsedd arbennig o dda, ond mae'n debyg nad ydym wedi mynd cweit mor bell â hynny. Nawr yw'r cyfle i ddangos bod Eisteddfod heb ffens, heb wal a heb dâl i ddod mewn yn mynd i fod yn agored i bawb.