Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Nid wyf yn credu y gallaf ychwanegu unrhyw beth arall ar wahân i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Lee Waters a Nick Ramsay. Dywedais ddoe fy mod yn credu bod system lywodraethu Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwdr ac nad oes gennyf unrhyw ffydd ynddi: rwy'n ailadrodd hynny er mwyn ei gofnodi gyda chi. Nid oes gennyf unrhyw ffydd yn system lywodraethu'r sefydliad hwn ar hyn o bryd. Hynny yw, gallwch ryw fath o ddeall gwneud un camgymeriad a bod y camgymeriad hwnnw'n para am ail flwyddyn—roedd yn gamgymeriad mawr, cofiwch chi; dylai rhywrai fod wedi talu'n ddrud am hwnnw—ond mae gwneud hyn gyda nifer o gontractau yn dangos bod rhywbeth sylfaenol o'i le.
Nawr, soniodd Lee Waters am lygredd. Ni wn a yw hynny'n wir, ond rwyf wedi ysgrifennu atoch gydag achos â thystiolaeth gan un o fy etholwyr ynglŷn â sut y mae'n credu bod contract wedi'i lunio mewn modd sy'n sicrhau y gallai un contractwr ei ennill, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru yn talu mwy ar ben y contract oherwydd ei fod wedi cael ei wneud yn y ffordd anghywir—felly, roedd yr offer yn cael ei brynu ar wahân, tra bo fy etholwr wedi gwneud cais amdano gyda'r offer yn rhan o'r contract—mewn geiriau eraill, swyddi i'r hogiau, gwneud pethau ar gyfer pobl rydych yn eu hadnabod. Hoffwn i chi ailagor yr ohebiaeth a gawsom oherwydd fe wnaethoch chi, mae'n rhaid i mi fod yn onest, wrthod gwrando arnaf a dweud y dylai fy etholwr gyflwyno ei achos i weithdrefnau cwynion Cyfoeth Naturiol Cymru. Wel, wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny—wrth gwrs ei fod—ac mae bellach wedi'i ddwyn i sylw'r ombwdsmon a'r BBC yn ogystal. Ond mae rhywbeth mawr o'i le fan hyn, ac nid yw'r pethau hyn yn digwydd oherwydd anghymhwystra. Anghymhwystra fyddai ei wneud unwaith neu ddwywaith. Mae hwn yn rhywbeth llawer mwy sylfaenol. Felly, rwyf am eich gwthio hyd yn oed ymhellach na'r hyn rydych newydd ei ddweud. O ddifrif, a all y cadeirydd barhau? Ac yn ail, a wnewch chi anfon eich swyddogion eich hun i mewn i edrych ar y contractau hyn, o'r brig i'r bôn, a gwneud yn siŵr nad oes unrhyw un ohonynt yn cael ei wneud gyda rhoddion neu ffafrau ynghlwm wrthynt?