Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Nid oes fawr ddim i'w ychwanegu at hynny, Lywydd, fe fyddwch yn falch o wybod, heblaw fy mod yn gwybod pa mor agos y gweithiodd Darren Millar fel cyn-Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus gyda Huw a gwnaethant lawer o waith pwysig. Dylwn fod wedi nodi ar y cychwyn, mae'n debyg, fod Huw yn yr oriel. Rwy'n meddwl am bobl yn gwylio hyn o'r tu allan ac rydym oll yn edrych tua'r nef fel pe bai'n eistedd ar gwmwl yn rhywle, ond na, mae yno yn y cnawd. Ond y cyfan sydd ar ôl gennyf i'w ddweud yw llongyfarchiadau ar eich CBE a phob lwc yn y dyfodol.