9. Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017-18

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:10, 18 Gorffennaf 2018

Diolch, Llywydd. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y pumed Cynulliad.

Mae’r Comisiwn wedi gosod y nod o fod yn sefydliad sy’n adnabyddus am ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol ac arloesol, ac i fod yn gorff sy’n esiampl i gyrff eraill yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n braf, felly, cyflwyno’r adroddiad yma o gynnydd ar yr uchelgais hon.

Symudaf yn gyntaf at y themâu a bennwyd ar gyfer cyfnod y cynllun. Rydym wedi pennu pum thema i strwythuro ein gwaith, gyda’r nod o gyflawni ein huchelgais o fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog sy’n edrych am bob cyfle i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg.

Mae’r thema gyntaf yn ymwneud â recriwtio, ac, fel y gwnaethom ni ymrwymo erbyn yr haf eleni, rydym wedi mabwysiadu dull newydd o recriwtio. O hyn ymlaen, felly, bydd y Comisiwn yn pennu lefel sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob swydd y byddwn yn ei hysbysebu. Bydd lefel sylfaenol o sgiliau Cymraeg yn rhan o’r disgrifiad swydd ar gyfer unrhyw swydd lle nad oes angen lefel uwch o sgiliau. Ar gyfer swyddi y mae angen lefel uwch o sgiliau iaith Gymraeg, rydym hefyd wedi cyflwyno fframwaith sy’n diffinio’r lefelau hynny o un i bump.

Dyma ddatganiad pendant, Llywydd, o’n dyhead i gefnogi gweithlu ein Senedd genedlaethol i berchnogi’r Gymraeg yn ddiwahân i gadarnhau ei safle a’i statws fel iaith sy’n eiddo i holl ddinasyddion Cymru, ac i gymryd camau ymarferol i alluogi ein staff i gyd i wasanaethu pobl Cymru yn ein dwy iaith.

Yr ail thema yw sgiliau iaith, ac, unwaith eto, pennwyd cyfres o dargedau i’w cyflawni erbyn haf 2018. Dros y flwyddyn diwethaf, mae’r tîm sgiliau iaith wedi gweithio ar ddatblygu rhaglen hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg sydd ar gael i bawb, o ddysgwyr newydd i siaradwyr Cymraeg rhugl. Dros yr haf, byddwn yn treialu mwy o hyfforddiant dwys, ac mae staff ac Aelodau wedi cael cyfle i fod yn rhan o ddarpariaeth breswyl y project Cymraeg Gwaith o dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

O ran cynlluniau ieithyddol, sef y trydydd thema yn y cynllun, mae’r holl wasanaethau wedi bod yn diweddaru eu cynlluniau iaith gyda chefnogaeth y tîm ieithoedd swyddogol. Yn ogystal â sicrhau bod gan ein gweithlu lefel briodol o sgiliau Cymraeg, mae’n hollbwysig, wrth gwrs, ein bod ni'n cynllunio’n fwriadus i roi pob cyfle i’n staff ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg, waeth ar ba lefel, yn eu gwaith. Wrth adolygu ein cynlluniau iaith gwasanaeth, rydym wedi gweld peuoedd iaith yn datblygu o fewn y sefydliad, gydag aelodau timau yn gweithio’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg, ond yn darparu’r gwasanaeth allanol yn gwbl ddwyieithog. Mae’r peuoedd hyn yn rhywbeth y byddwn yn awyddus i’w datblygu ymhellach dros y flwyddyn i ddod.

Mae’r pedwerydd thema yn ymwneud â thrafodion y Cynulliad. Mae’r gwaith yn y maes hwn wedi canolbwyntio ar gefnogi Aelodau a hwyluso gweithio dwyieithog.

Thema pump yw’r un mwyaf eang o ran y gwaith a wnaed dros y flwyddyn. Mae’r targedau fan hyn yn rhai gweddol syml ar y cyfan, ond, gyda’i gilydd, byddant yn gwneud cyfraniad mawr at newid delwedd ac ethos ein sefydliad i adlewyrchu’r genedl ddwyieithog rydym yn ei gwasanaethu. Bellach, mae bathodynnau a llinynnau gwddf yn cael eu defnyddio a’u dosbarthu yn ddiofyn, er enghraifft, ac mae llawer o staff y Comisiwn yn defnyddio’r bathodyn 'iaith gwaith' ar eu e-byst hefyd. Fel y byddech chi'n ddisgwyl, mae ein gwaith ar dechnoleg iaith wedi parhau, gan gynnwys gwaith sydd wedi arwain at broject cyffrous iawn ar gyfer y Swyddfa Gyflwyno a thîm y Cofnod.

I symud ymlaen felly at y safonau gwasanaeth o fewn y cynllun, mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd rŷm ni wedi cynnal y safonau a osodwyd. Am y tro cyntaf eleni, mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys ystadegau ar nifer o elfennau o’r gwasanaethau rŷm ni yn eu darparu. Yn ystod y broses o ddrafftio’r cynllun, dywedodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wrthym y byddai data o’r fath yn ddefnyddiol i helpu Aelodau i fonitro ein perfformiad mewn rhai meysydd. Felly, maen nhw wedi eu gosod mas yn yr adroddiad blynyddol. Edrychaf ymlaen at gydweithio ymhellach â’r pwyllgor yn y gwaith hwn yn y dyfodol agos. Mae'n rhaid i mi droi reit tu ôl i'ch gweld chi. Bydd y data yma yn ffurfio gwaelodlin ar gyfer mesur ein perfformiad dros y blynyddoedd i ddod a thargedu hyfforddiant i staff. Byddwn hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod mwy o wybodaeth ddwyieithog, gan gynnwys tystiolaeth a deddfwriaeth, ar gael i Aelodau Cynulliad wrth iddynt gymryd rhan mewn trafodion a pharatoi ar eu cyfer.

Yn olaf, at fonitro a chydymffurfio, yn yr adroddiad rŷm ni yn adrodd ar y cwynion a'r adborth rŷm ni wedi eu derbyn, a'r camau a gymerwyd ac unrhyw gamau y byddwn ni'n eu cymryd i gywiro methiannau ac i wella cydymffurfiaeth â'r cynllun yn barhaus, yn ysbryd tryloywder a rhoi sicrwydd i bobl Cymru fod y sefydliad hwn yn un sy'n cymryd cydraddoldeb ieithyddol o ddifrif mewn gair a gweithred. Unwaith eto, bydd y manylion yma yn eich helpu chi i ddal Comisiwn y Cynulliad i gyfrif am ein gwaith yn eich cefnogi chi a phobl Cymru i weithio ac i ymgysylltu â ni fel sefydliad yn eich dewis chi o ran iaith swyddogol, ac felly gwella ein gwasanaethau dwyieithog ymhellach i'r dyfodol. Diolch yn fawr.