Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 18 Medi 2018.
Yr anhawster, wrth gwrs, yw'r diffyg manylion ynghylch sut y bydd y gronfa yn gweithredu: faint o arian fydd yn y gronfa, er enghraifft; pa un a fydd yn gronfa lle y bydd proses ymgeisio, a fyddai, wrth gwrs, yn torri ar draws ddatganoli; pa un a fydd yn gweithredu yn yr un modd ag y mae'r cronfeydd Ewropeaidd presennol yn gweithredu. Yn absenoldeb y manylion hynny, wrth gwrs, mae'n anodd cyflwyno cynigion ynghylch sut y gallai'r gronfa honno weithredu yng Nghymru, ond gallaf ddweud y disgwylir i'r Ysgrifennydd cyllid gyflwyno datganiad llafar y mis nesaf, a fydd yn nodi'r camau nesaf ar gyfer datblygu gyda rhanddeiliaid polisi rhanbarthol ar ôl Brexit.