Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 18 Medi 2018.
Wel, a gaf i groesawu'r Aelod fel arweinydd diweddaraf UKIP yn y Siambr hon? Nid oes gen i unrhyw syniad o gwbl pam mae ganddo gymaint o broblem gyda ffoaduriaid. Mae gennym ni hanes balch o roi lloches i bobl sydd wedi cael eu herlid ledled y byd, plant, yn enwedig, sydd wedi gweld pethau nad yw ef erioed wedi eu gweld, erioed wedi eu gweld—oedolion sydd wedi gweld pobl yn cael eu lladd o'u blaenau, pobl sydd wedi gweld rhyfel, pobl sydd wedi bod yn destun erledigaeth, hil-laddiad weithiau. A dyma fe, yn dweud rywsut nad yw bod yn genedl o noddfa yn rhywbeth y dylem fynd ar ei drywydd.