Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 18 Medi 2018.
Mater i'r ymchwilwyr yw hwnnw, nid i mi. Ceir dau fater yn benodol a grybwyllwyd. Un yw croesholi tystion—nid yw hynny'n briodol ar gyfer proses ymchwiliol. Mae hynny'n digwydd mewn treial—fel cyfreithiwr, rwyf i'n gwybod hynny.
Yn ail yw'r awgrym y dylid gallu gorfodi tystion i ymddangos. Unwaith eto, nid oes unrhyw sail gyfreithiol ar gyfer gwneud hynny mewn ymchwiliad anstatudol. Felly, ceir cyfyngiad ar yr hyn y gellir ei wneud o ran y gyfraith.