Part of the debate – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 18 Medi 2018.
Diolch, Llywydd. Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Wedi'u hychwanegu at yr agenda heddiw y mae datganiadau ar y diweddariad i'r pontio Ewropeaidd ynghyd ag adroddiad ar gynnydd y cynllun cyflogadwyedd. Ac fel arfer, nodwyd y busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymysg papurau'r cyfarfod ar gael i'r Aelodau yn electronig.