6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 4:35, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig.

Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru). Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r tri phwyllgor sy'n ymwneud â chraffu ar y Bil hwn am eu hamser a'u gwaith caled. Er mwyn cydnabod eu hymdrechion ysgrifennais at y tri phwyllgor, cyn y ddadl heddiw, yn nodi'n fanwl fy meddyliau mewn ymateb i'w hargymhellion a'u casgliadau, ac rwy'n gobeithio bod Cadeiryddion ac Aelodau'r pwyllgorau wedi cael ychydig o amser—er mai ychydig o amser ydyw—i ystyried yr ymatebion manwl.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl randdeiliaid a ddarparodd dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Rwy'n dymuno tynnu sylw yn arbennig at waith y Pwyllgor Plant, Phobl Ifanc ac Addysg am graffu'n ddiwyd a manwl ar y Bil hwn ac ar y polisi sylfaenol. Rwy'n awyddus i ddweud ar ddechrau'r ddadl hon fy mod i'n gwerthfawrogi'n fawr iawn y dystiolaeth a gofnododd y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a faint o waith a wnaed ar ei adroddiad a'i argymhellion. Rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i barhau i weithio gyda'r Pwyllgor ar ei argymhellion ehangach ynglŷn â gofal plant a'r sector yn gyffredinol, a'r meysydd penodol hynny y nodwyd bod angen i ni fel Llywodraeth wneud rhagor yn eu cylch i egluro pa gymorth sydd ar gael i helpu rhieni sy'n gweithio neu mewn hyfforddiant, er enghraifft.

Nawr, mae'r Bil Cyllid Gofal Plant (Cymru) sydd ger ein bron yn Fil byr a thechnegol a gyflwynwyd gennym i gefnogi cyflwyniad system sengl, genedlaethol o wirio ceisiadau a chymhwystra o ran ein cynnig gofal plant i Gymru, ac, wrth gwrs, mae'r cynnig gofal plant yn un o ymrwymiadau allweddol y Llywodraeth hon. Fe'i cyflwynwyd yn gyntaf ym maniffesto Llafur Cymru, a chafodd ei ailddatgan yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen'.

Felly, rydym wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu gan y Llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Gwnaethom yr ymrwymiad hwn gan fod rhieni wedi dweud wrthym fod angen cymorth gyda chostau gofal plant, yn arbennig y teuluoedd hynny ar incwm is lle mae costau gofal plant yn gyfran fwy o'r gyllideb wythnosol. Ond i fod yn hollol glir, nid oes angen inni ddwyn ymlaen ddeddfwriaeth i ddarparu'r cynnig. Rydym eisoes yn ei gyflawni mewn rhannau o Gymru, yn profi sut y mae'n gweithio i rieni, i ddarparwyr ac i blant. Ond bydd y Bil hwn yn creu proses 'unwaith i Gymru' syml, i wirio cymhwystra pobl, gan eu galluogi i gael y gofal plant sydd ei angen arnynt, yn syml.

Mae'r awdurdodau lleol sydd wedi cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y rhaglenni treialu gofal plant yn gwneud gwaith gwych yn darparu'r cynnig, ond maen nhw'n dweud wrthym fod y baich gweinyddol yn fwy o lawer na'r disgwyl. Ac ar adeg pan fo'r gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau o ganlyniad i gyni parhaus Llywodraeth y DU, ni allaf—alla i ddim—gofyn i awdurdodau lleol gynnal dull o wirio cymhwystra ar gyfer gofal plant sydd mor feichus, ansafonol a dibynnol ar bapur. Felly, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn ceisio manteisio ar dechnoleg ddigidol trwy ddatblygu'r un system 'unwaith i Gymru' hon i brosesu ceisiadau ac archwilio cymhwystra, a bydd y Bil hwn yn gwneud hynny.

Hoffwn i ddiolch i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yr Ysgrifennydd Cartref a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau am eu cymorth wrth ddatblygu'r Bil hwn. Y bwriad yw penodi Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gynnal yr archwiliadau cymhwystra ar gyfer y cynnig. Bydd hyn yn golygu y gallwn ddefnyddio'r un system â'r un a ddefnyddir i gynnal archwiliadau o'r fath yn Lloegr ar hyn o bryd. Gall rhieni yng Nghymru wneud cais am gymorth gyda chostau gofal plant dan y cynllun gofal plant di-dreth a gwneud cais am y cynnig hwn yr un pryd, ond nid yw gweithio gyda Chyllid a Thollau EM yn awr yn golygu nad oes modd inni ystyried ateb pwrpasol i Gymru yn y dyfodol, os a phan fydd cyllid cyhoeddus yn caniatáu hynny.

Dirprwy Lywydd, gwnaeth y tri Phwyllgor nifer o argymhellion ynglŷn â'r Bil, a byddaf yn ceisio ymateb i lawer o'r rhain yn yr amser sydd gennyf. Cododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y mater o gydsyniad. Gallaf gadarnhau bod cydsyniad ar gyfer y Bil ar waith a fy mod wedi ysgrifennu at y Llywydd i gadarnhau hyn ar 9 Gorffennaf. Mae copïau o'r llythyrau ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod angen caniatâd Gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU hefyd ar rai o'r Rheoliadau sydd i gael eu pasio o dan y Bil, felly hoffwn i dawelu meddwl y Cynulliad hwn ein bod yn wir yn gweithio'n agos gydag adrannau perthnasol y DU, ac rwy'n hyderus y byddwn yn sicrhau'r caniatâd angenrheidiol i'r rheoliadau o dan y Bil.

Fel y gallech ddisgwyl, gofynnodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol imi adolygu'r cydbwysedd rhwng y darpariaethau ar wyneb y Bil a'r rhai a adewir i'r Rheoliadau. Nawr, rwy'n deall y rhesymau dros hyn, a chyffyrddodd nifer o'i argymhellion â meysydd y byddai'n ddefnyddiol cael mwy o fanylion amdanynt ar wyneb y Bil. Yn wir, adleisiwyd y sylwadau hyn yn rhai o argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg hefyd. Felly, gallaf gadarnhau y byddaf yn cyflwyno gwelliannau gan y Llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 y Bil i roi mwy o fanylion am ddiffiniad 'plentyn cymwys' yn unol ag argymhelliad 5 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, rwy'n parhau i edrych ar sut i fynd i'r afael â galwadau amrywiol i gynnwys y cynnig gofal plant ar wyneb y Bil, a byddaf yn ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda rhagor o gynigion wrth i ni eu datblygu.

Nawr, roedd llawer o'r argymhellion yn mynd i'r afael â manylion gweithredol megis y gyfradd fesul awr sy'n daladwy i ddarparwyr, y rhaniad rhwng gofal plant ac addysg, y trefniadau yn ystod gwyliau'r ysgol a phwy all ddarparu'r cynnig hwn, ac yn gofyn am gynnwys y manylion hyn yng nghwmpas y Bil. Rwy'n dal i fod o'r farn y byddai'n well ymdrin â manylion o'r fath yn y cynllun gweinyddol, yn hytrach nag yn y Bil ei hun, ac rwyf wedi esbonio'r rhesymau dros hyn yn fy llythyrau i at y tri phwyllgor. Serch hynny, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod cynllun gweinyddol fframwaith cychwynnol ar gael i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn Cyfnod 3, a byddem yn croesawu'r cyfle i ddychwelyd at y pwyllgor yn y gwanwyn i drafod y cynllun yn fanylach.

Gan droi at adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwyf wedi derbyn ei argymhelliad i ddarparu diweddariad ar y costau o weithio gyda Chyllid a Thollau EM. Bydd y system ymgeisio yn cael ei datblygu yn ystod y 18 mis nesaf, a bydd pwyntiau adolygu rheolaidd. Mae'r drefn lywodraethu a'r trefniadau priodol wedi'u rhoi ar waith ac rydym yn defnyddio arbenigedd Awdurdod Refeniw Cymru yn hyn o beth. Gallaf gadarnhau hefyd i'r Aelodau fod Cyllid a Thollau EM wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog ac rydym wedi ymrwymo i gymryd pob cam posibl i ddenu'r swyddi hyn i Gymru.

Dirprwy Lywydd, ar ddechrau'r ddadl hon, soniais ein bod ni newydd ddechrau treialu ein cynnig gofal plant. Ym mis Mai, ehangwyd y cynnig i saith ardal arall yng Nghymru; mae ar gael erbyn hyn mewn 14 o ardaloedd yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o'r cyflwyniad graddol hwn a bydd gwerthusiad annibynnol o flwyddyn gyntaf y rhaglen yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd. Rwyf wedi cytuno i drefnu bod aelodau o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cael gweld y canfyddiadau gwerthuso yn gyntaf er mwyn helpu ei waith craffu parhaus ar y Bil hwn. Rwyf hefyd wedi cytuno i roi gwybodaeth i'r pwyllgor am nifer y bobl sy'n manteisio ar y cynnig yn ystod ei flwyddyn gyntaf, ac i adolygu'r mater o ffioedd ychwanegol yn rheolaidd.

Yn dilyn materion a godwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, byddaf i hefyd yn adolygu'r Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010, sy'n cynnwys darpariaethau sy'n nodi pwy sy'n cael darparu gofal plant a phwy sydd ddim yn cael  gwneud hynny, a byddaf yn rhannu'r canfyddiadau â'r pwyllgor.

Roeddwn yn falch bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac eithrio un Aelod, wedi argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil, ac yn amlwg byddwn yn annog yr un Aelod hwnnw i ailystyried yn ystod Cyfnod 1 y ddadl egwyddorion cyffredinol hon. Mae'n argymhelliad yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr ac yn un yr wyf yn ei gymeradwyo i'r holl Aelodau, ac edrychaf ymlaen, yn wirioneddol, at barhau i drafod y Bil ac yn gobeithio y bydd y Cynulliad heddiw yn cefnogi ei egwyddorion cyffredinol. Diolch, Dirprwy Lywydd.