Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 18 Medi 2018.
Mae'n rhaid inni wneud yn siŵr bod y Bil yn ei gwneud hi'n haws i famau ddychwelyd i'r gweithlu ac nad yw'n darparu rhy ychydig yn rhy hwyr. Credaf fod yr argymhellion a amlinellir yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn hanfodol i sicrhau'r canlyniadau hirdymor cadarnhaol hynny ar gyfer ein rhieni yng Nghymru. Roeddwn yn siomedig o weld bod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad 7 yn ei ymateb i'r adroddiad ar y Bil hwn. Mae eithrio ac anfanteisio rhieni sydd mewn addysg neu'r rheini sy'n chwilio am waith yn gwbl groes i'r rhethreg a glywn mor aml gan y Llywodraeth hon yn ddyddiol ar gydraddoldeb a thegwch. Mae'r Gweinidog yn cyfeirio yn ei ymateb bod dewisiadau eraill ar gyfer rhieni sydd mewn addysg ar ffurf y rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth (PaCE), sy'n dod i ben yn 2020, neu Dechrau'n Deg, y gwyddom fod y mwyafrif helaeth o blant sy'n byw mewn tlodi yn anghymwys ar ei gyfer oherwydd y loteri cod post.
Mae cyfle gan y Llywodraeth i annog dyheadau'r bobl hynny sy'n dewis addysg fel llwybr at symudedd cymdeithasol i fyny—a dydyn nhw heb achub ar y cyfle hwn o gwbl. Bydd amrywiaeth o raglenni yn arwain at ragor o ddryswch ymhlith rhieni, yn enwedig i'r rheini sy'n trosglwyddo o addysg neu ddiweithdra i gyflogaeth amser llawn. Dylem fod yn ymwybodol o'r straen y gall hyn ei achosi oherwydd aneffeithlonrwydd diangen a chymhlethdod systemau datgysylltiedig di-ri. Oni fyddai'n fwy ymarferol rhoi'r cynnig hwn i rieni, p'un a ydynt mewn cyflogaeth neu addysg, a chael gwared ar unrhyw rwystr i ymuno â'r gweithlu? Mae arnaf ofn bod cyfyngu'r cynnig hwn yn unig i rieni sydd mewn cyflogaeth yn rhoi plant sydd â'u rhieni'n ddi-waith dan anfantais cyn iddyn nhw hyd yn oed gamu i mewn i'r ystafell ddosbarth.
Mae gennyf bryderon hefyd ynglŷn ag effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth pan fydd ar waith ac yn pryderu a yw'n cyflawni ei nod. Er gwaethaf y ffaith bod bwriad da i'r ddeddfwriaeth hon, mae gennym bryderon gwirioneddol y bydd y cynnig yn ei ffurf bresennol yn achos o godi pais wedi piso, gan gynnig cymorth i rieni yn rhy hwyr ac ymhell ar ôl i benderfyniadau gael eu gwneud am gynlluniau gyrfa un rhiant neu'r ddau yn y dyfodol. Rwy'n siŵr y bydd pawb ohonom sydd wedi bod â phlant ifanc, gan gynnwys fi fy hun, yn ymwybodol o'r realiti hwn. Rwy'n deall bod y Gweinidog wedi cytuno i adolygu oedran y plentyn cymwys, ac rwy'n croesawu hynny. Edrychaf ymlaen at glywed mwy gan y Gweinidog am newid i'r oedran cymhwyso.
Yn olaf, hoffwn godi'r mater o ffioedd ychwanegol yng nghyswllt y cynnig gofal plant. Heb gyfyngu ar gostau ychwanegol, mae posibilrwydd y bydd darparwyr gofal plant yn codi £162.50 ychwanegol ar gyfer pob plentyn bob mis, a bydd y gost honno'n sicr yn cael ei phasio i lawr i'r rheini sy'n gallu ei fforddio leiaf. Mae caniatáu taliadau ychwanegol yn peri risg y bydd y prisiau yn rhy uchel i deuluoedd incwm isaf ac na fyddan nhw'n gallu defnyddio'r cynnig hwn a mynd yn ôl i'r gwaith, yn ôl bwriad y Bil. Ni ddylai cynnig gofal plant am ddim anfanteisio'r union bobl hynny y'i cynlluniwyd i'w helpu. Ni chredaf y bydd yn syndod os bydd meithrinfeydd yn penderfynu bwrw ymlaen â gweithredu taliadau ychwanegol. Rhwng costau busnes cynyddol a'r ffaith fod gan feithrinfeydd Cymru eisoes y cyfraddau fesul awr isaf yn y Deyrnas Unedig, maen nhw'n wynebu her wirioneddol. Canfu arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas Meithrinfeydd Dydd Cenedlaethol Cymru bod 41 y cant o feithrinfeydd wedi dweud bod y ffigur o £4.50 yn is na'u ffi arferol. Mae yna gymhelliant clir i feithrinfeydd wneud iawn am y diffyg drwy basio'r costau ychwanegol ymlaen i'r rhieni, ac nid yw'r Llywodraeth hon yn cymryd camau i atal hynny.
I gloi, rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn mwyafrif yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor. Edrychaf ymlaen nawr at gymryd rhan yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y gwn fod Lynne Neagle AC yn ei gadeirio mor wych. Diolch.