6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 18 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 4:57, 18 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch  ichi, Dirprwy Lywydd. Adroddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) ar 28 Mehefin a gwnaeth 12 o argymhellion. Wrth fynd heibio, cawsom ymateb i nifer o'r argymhellion hynny gan y Gweinidog ddoe. Rwy'n ddiolchgar am hynny ac am yr ymateb cadarnhaol i lawer ohonynt. Felly, mae'r adroddiad hwn i raddau helaeth yn ymwneud â'r Bil fel y mae, a byddaf yn gwneud sylwadau ynghylch rhai o ymatebion y Gweinidog hyd eithaf fy ngallu wrth fynd trwyddo.

Nid ein rôl ni ar y cyfan yw rhoi sylwadau ar egwyddorion cyffredinol Bil. Nid dyna swyddogaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Fodd bynnag, mae'r angen am ddeddfwriaeth yn ystyriaeth gan y Pwyllgor. Bil sgerbwd yw'r Bil. Mae'n cynnwys saith pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, ac mewn Bil sydd â 13 o adrannau, mae hyn yn helaeth. Yn ein barn ni, mae ynddi ddiffyg eglurder a datganiad clir o ddiben. Gan fod cyn lleied o fanylion ar ei wyneb, nid ydym o'r farn bod y Bil yn bodloni egwyddorion allweddol deddfwriaeth. Ni ddylai deddfwriaeth sylfaenol fod wedi'i llunio mor fras â'r bwriad o'i defnyddio fel cyfrwng i gyflwyno is-ddeddfwriaeth i ymdrin â'r hyn a all ddigwydd yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn cyfyngu ar allu'r Cynulliad Cenedlaethol fel deddfwrfa i graffu ac i drafod gwelliannau posibl i faterion polisi sylweddol mewn fforwm democrataidd.

Nid ni yn unig sy'n mynegi pryderon o'r fath am ddeddfwriaeth. Yn ddiweddar, mae'r Pwyllgor Cyfansoddiad, sef ein pwyllgor cyfatebol yn Nhŷ'r Arglwyddi, wedi beirniadu Llywodraeth y DU yn yr un modd. Rydym yn cytuno â'i sylwadau bod Biliau sy'n rhoi pwerau eang i Weinidogion yn ei gwneud yn anodd i'r Senedd graffu arnynt, ac yn cyflwyno her sylfaenol i gydbwysedd y grym rhwng y Senedd a'r Weithrediaeth. Rydym yn poeni mai'r cais i'r Cynulliad Cenedlaethol yw rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru allu gwneud rheoliadau y gellid eu defnyddio i wneud darpariaethau nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu rhagweld wrth ystyried y Bil. Rydym hefyd yn pryderu nad yw'r dull a fabwysiadwyd yn y Bil hwn yn gyson ag amcan Llywodraeth Cymru i wneud y gyfraith yng Nghymru yn fwy defnyddiol.

Fel y nodwyd yn ein hadroddiad, dull arall fyddai cynnwys y manylion angenrheidiol ar wyneb y Bil a hefyd gynnwys darpariaeth sy'n caniatáu i'r manylion hynny gael eu diwygio drwy is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Nid yw cynnwys cymaint o bŵer Harri'r VIII yn ffordd ddelfrydol o ddeddfu, ond gall fod yn gyfaddawd rhesymol os bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried bod angen hyblygrwydd o'r fath. Byddai ychwanegu mwy o fanylion at wyneb y Bil yn ei gryfhau yn sylweddol a byddai'n sylfaen gliriach ar gyfer y polisi y mae'n ceisio ei gyflawni.

Roedd ein hail argymhelliad yn awgrymu y dylai'r Gweinidog gynnal adolygiad sylfaenol o'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd ar wyneb y Bil a'r hyn a adewir i is-ddeddfwriaeth. A hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb ffurfiol i'n hadroddiad, yr wyf eisoes wedi cyfeirio ato. Rwy'n croesawu'r ffaith ei fod wedi gwrando ar bryderon y pwyllgor ac wedi adolygu'r cydbwysedd pŵer. Edrychaf ymlaen at weld y gwelliannau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu dwyn ymlaen yng Nghyfnod 2 yn y cyswllt hwn.

Wrth symud ymlaen at y cynnig gofal plant, mae Llywodraeth Cymru yn deddfu ar ei chynnig cyn diwedd y rhaglenni treialu perthnasol a'r gwerthusiad dilynol o effeithiolrwydd y polisi. Am y rheswm hwnnw, credwn ei bod yn werth ystyried a ddylid cynnwys gofyniad i adolygu a darpariaeth machlud yn y Bil. Byddai darpariaethau o'r fath yn dilyn dull a fabwysiadwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru yn y Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru).

Roedd argymhelliad 3 yn ein hadroddiad yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am ei ystyriaeth o'r materion hyn yn ystod y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ystyried yr opsiynau sydd ar gael mewn cysylltiad â'r argymhelliad hwn ac edrychaf ymlaen at gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog maes o law wrth ddatblygu'r cynigion.

Nawr, wrth graffu ar y Bil, nid oedd yn glir i ni pam na all materion o egwyddor sy'n ymwneud â chynnig gofal plant Llywodraeth Cymru ymddangos ar wyneb y Bil. Felly rydym yn argymell y dylai'r Bil, ar ei wyneb, ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddarparu ei chynnig gofal plant, waeth beth fo hynny.

Argymhelliad 4—unwaith eto, rwy'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i archwilio'r opsiynau sydd ar gael mewn cysylltiad â'r argymhelliad hwn ac yn edrych ymlaen at gael diweddariad gan y Gweinidog maes o law.

Awgrymodd argymhelliad 5 o'n hadroddiad y dylai'r meini prawf cymhwystra craidd ynghylch pwy sy'n blentyn cymwys neu'n rhiant sy'n gweithio, ymddangos ar wyneb y Bil, ynghyd â darpariaeth sy'n galluogi'r meini prawf hyn i gael eu diwygio yn y dyfodol drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Rydym yn anghytuno â'r Gweinidog y bydd y meini prawf cymhwystra yn dechnegol eu natur ac felly na fyddai ymgynghoriad ar reoliadau drafft sy'n ymwneud â'r meini prawf yn addas o reidrwydd. Rydym yn credu y byddai methu ag ymgynghori ar faterion sylweddol o'r fath yn groes i egwyddorion cyfraith gyhoeddus. Rwy'n falch o weld bod y Gweinidog wedi derbyn ein hargymhelliad ac y bydd yn cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu eglurder o ran pwy sy'n blentyn cymwys.

Wrth symud ymlaen at y cynllun gweinyddol, ni fydd gan y cynllun unrhyw statws cyfreithiol, ac eto bydd yn cynnwys manylion am faterion pwysig iawn. Rydym yn pryderu y bydd y materion pwysig hyn yn cael eu gadael i ddogfen nad yw'n ddarostyngedig i unrhyw ofyniad o graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol. Nid ydym yn credu y dylid penderfynu ar faterion fel y gyfradd fesul awr sy'n daladwy ar gyfer y gofal plant na phwy sy'n cael darparu gofal o'r fath heb fod y Cynulliad Cenedlaethol yn craffu ar y penderfyniadau. Rydym yn argymell y dylai'r gwelliannau gael eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 i sicrhau y gwneir darpariaethau o'r fath mewn rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Dyna oedd argymhelliad 7. Nid yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, rwyf yn nodi ei fod wedi cynnig cyflwyno cynllun drafft cychwynnol i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg cyn trafodion Cyfnod 3.

Yn olaf, soniaf yn fyr am argymhelliad 12, sef y dylid diwygio'r Bil fel bod unrhyw Orchymyn cychwyn a wneir o dan adran 12(1) y Bil yn destun gwaith craffu gan y Cynulliad a'r weithdrefn negyddol. Nid yw'r Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn, oherwydd nad yw gwneud Gorchmynion cychwyn fel arfer yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn yn y Cynulliad. Mewn ymateb i hyn, byddwn i'n ailadrodd y casgliadau a wnaed yn ein hadroddiad. Ar gyfer Gorchmynion cychwyn a fydd yn deillio o Fil sy'n cynnwys cyn lleied o fanylion ar ei wyneb, mae'n bwysig bod y ddeddfwriaeth sylfaenol yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy roi hawl iddo graffu ar y Gorchmynion hynny. Rydym o'r farn na ddylai Bil sgerbwd wneud defnydd o weithdrefn sy'n rhwystro gwaith craffu gan y ddeddfwrfa yn y dyfodol.

Diolch ichi, Dirprwy Lywydd.