Cefnogi Prifysgolion Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 25 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:35, 25 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rydym ni'n cydnabod pwysigrwydd sector addysg uwch o'r radd flaenaf sy'n ffynnu i les economaidd a chymdeithasol Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth, wrth gwrs, i'r sector trwy Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, a fydd, ynghyd â'n diwygiadau i gymorth myfyrwyr, yn creu sector cryfach a mwy cynaliadwy yng Nghymru.