Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 25 Medi 2018.
Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'r cynnig yn ddigon cryf ar hyn o bryd. Pan edrychwch chi ar y ffigurau, mae gostyngiad o 7 y cant o wledydd nad ydynt yn yr UE a gostyngiad o 10 y cant o wledydd yr UE yn dod i brifysgolion yng Nghymru. Ac eto bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd ym mhrifysgolion Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr arian, sydd i'w groesawu, sut ydych chi'n mynd i newid y cynnig a fydd wir yn dechrau cael mwy o fyfyrwyr i ddod i Gymru, fel y cynigion eraill sydd ar gael mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac sy'n gweld cynnydd i'w niferoedd ymrestru?