Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 25 Medi 2018.
Prif Weinidog, mae pobl y gogledd yn y sefyllfa hon o ganlyniad i danariannu, israddio ac esgeulustod cyson ar ran eich Llywodraeth Cymru chi. Mae eich anallu llwyr i arwain y bwrdd iechyd hwn i well sefyllfa yn arwain at ganlyniadau enfawr i bobl y gogledd a'r staff sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu eu gofal. Mae pobl y gogledd yn haeddu gwasanaeth iechyd diogel a chynaliadwy. Yn amlwg, rydych chi wedi methu. Felly, dyma eich cyfle, Prif Weinidog: cyn i chi adael, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn nawr i ymddiheuro i bobl y gogledd yr ydych chi wedi eu siomi mor wael?