Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 25 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 25 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ei chael hi'n anodd derbyn yr hyn y mae arweinydd UKIP yn ei ddweud pan ddywed—. Mae'n sôn am bwysigrwydd gwaith y pwyllgor materion cyhoeddus, yr wyf i'n credu sy'n gywir, ac mae'n sôn am yr angen am graffu, ac eto ar yr un pryd mae eisiau diddymu'r Cynulliad, gan roi dim craffu o gwbl i ni wedyn—dros Cyfoeth Naturiol Cymru na thros unrhyw beth arall. Mae'n galw am ail refferendwm ar ddatganoli, ac yn gwrthwynebu un pan ddaw i Brexit. Felly, pan ddaw i graffu, ei ateb ef i fwy o graffu yw diddymu'r union graffwyr eu hunain, gan ei gwneud yn llawer mwy anodd i waith craffu priodol ddigwydd. Ac oherwydd y gwaith craffu hwnnw y cynorthwywyd i'r problemau yn Cyfoeth Naturiol Cymru gael eu canfod. Yn y blynyddoedd a fu, ni fyddai'r lefel honno o graffu erioed wedi bod yno, yn y dyddiau cyn datganoli. Mae'r gwaith craffu hwnnw, yn gwbl briodol, wedi ei wneud gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ac mae'n fater nawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, gan weithio gyda ni fel Llywodraeth, i unioni'r sefyllfa.