Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 25 Medi 2018.
Mae'n rhaid iddyn nhw wella, nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, ond, os edrychwn ni ar berfformiadau mewn rhannau eraill o'r GIG, rydym ni'n gweld bod y ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn gwella. Yn amlwg, ceir her bod yn rhaid i Betsi Cadwaladr ymateb iddi er mwyn lleihau amseroedd aros yn yr ysbytai hynny.