Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 25 Medi 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, pa un o'r penderfyniadau canlynol ydych chi'n credu y gall Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn fwyaf balch ohono? Ai dympio 300,000 tunnell o fwd niwclear tua 1 filltir o Fae Caerdydd, neu ai rhoi trwydded ar gyfer llosgydd biomas sydd y drws nesaf i adeiladau preswyl yn noc y Barri, neu, yn olaf, ai gwrthod gwerthu pren o'r coetir cyhoeddus am bris y farchnad, gan ddwyn £1 filiwn oddi wrth trethdalwyr Cymru o bosibl?