Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 25 Medi 2018.
Rwyf i wrth fy modd bod y pentref llesiant gwerth £200 miliwn yn Llanelli sydd, trwy ei arloesedd yn argoeli i fod yn esiampl i Gymru gyfan, ymhlith y prosiectau cyntaf i gael eu cyflwyno o dan y cais. Rwyf i wedi bod yn trafod gyda'r Cyngor sut y gallwn ni wneud yn siŵr ei fod yn cysylltu â gweddill Llanelli ac nad yw'n troi'n rhyw fath o ddatblygiad cyrion tref; mae'r traffig yn yr ardal eisoes yn ddwys yn ystod oriau brig. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog wneud yn siŵr bod y cynlluniau newydd ar fetro de Cymru yn cydblethu â'r datblygiadau o amgylch y pentref llesiant?