Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Medi 2018.
Mae'r adolygiad o ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu, a sefydlwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cychwyn erbyn hyn. Bydd y gwaith hwnnw'n ategu gwaith y grŵp cynghori ar lesddaliadau, a gynullwyd gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwn fod yr Aelod wedi codi hyn o'r blaen yn y Siambr hon. Mae'n fater pwysig dros ben, rhywbeth sy'n gymharol newydd o ran ei gysyniad, ond un y mae'n rhaid i ni ymdrin ag ef i wneud yn siŵr na chamfanteisir ar bobl.