1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 25 Medi 2018.
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canlyniad a fyddai orau gan Lywodraeth Cymru yn y negodiadau ar Brexit? OAQ52648
Gellir dod o hyd iddo yn y Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb anaddysgiadol yna. Ond rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi bod Theresa May wedi gwneud cawl llwyr o'r trafodaethau gyda Brwsel. Roedd cynigion Chequers bob amser yn mynd i fod yn farw-anedig, nid oes unrhyw baratoadau gwirioneddol wedi eu gwneud ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb, ac nid oes llawer o amser ar ôl i ddod i gytundeb masnach rydd fel yr un a gytunwyd gyda Canada. Ym mhle mae'r Blaid Lafur yn sefyll yn hyn i gyd? Mae'n ymddangos bod Syr Keir Starmer, llefarydd Brexit y Blaid Lafur yn y DU, wedi dweud y bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn unrhyw beth y mae Theresa May yn ei gyflwyno, neu y caniateir iddi ei gyflwyno, rhwng nawr a mis Mawrth nesaf. Mae'n ymddangos bod Jeremy Corbyn, y gorymdeithiais ag ef trwy lawer o lobïau yn pleidleisio yn erbyn deddfwriaeth yr UE dros y blynyddoedd, yn eistedd ar y ffens. Mae'n ymddangos bod Keir Starmer wedi ei gwneud yn eglur ei fod eisiau ail refferendwm, doed â ddêl, tra bod John McDonnell, ar y llaw arall, yn dweud er ei fod o blaid pleidlais y bobl ar beth bynnag a ddaw, ni ddylai gynnwys y dewis o adael yr UE. Beth yw barn y Prif Weinidog? A ddylid cynnal ail refferendwm lle ceir dewis o adael yr UE ai peidio?
Y peth cyntaf i'w ddweud yw bod teimlad cynyddol yn y Siambr hon a'r tu allan os nad oes cytundeb ac, felly, trychineb, mai bai'r rheini a oedd o blaid aros fydd hyn ac nid bai'r rheini a roddodd ddadansoddiad breuddwyd gwrach ddwy flynedd yn ôl o'r hyn y byddai'r refferendwm yn ei olygu. Dywedwyd wrthym mai'r rhain fyddai'r trafodaethau hawddaf erioed. Nid yw hynny wedi bod yn wir. Dywedwyd wrthym y byddai'r UE yn ildio yn wyneb gofynion y DU. Nid yw wedi gwneud hynny. Dywedwyd wrthym y byddai cynhyrchwyr ceir yr Almaen yn ein hachub ac yn gorfodi Llywodraeth yr Almaen i dderbyn cytundeb o blaid y DU. Nid ydynt wedi gwneud hynny. Y gwir amdani yw bod y DU yn fwy rhanedig nag y mae'r UE wedi bod o gwbl yn ystod y broses hon.
Nawr, gofynnodd fy marn ar hynny. Yn gyntaf oll, i roi hyn mewn cyd-destun, rwyf i wedi clywed ei blaid ef yn dadlau'n gryf yn erbyn ail refferendwm, ac eto roedd yn aelod o blaid a wnaeth, am wyth mlynedd, ddadlau'n gryf am ail refferendwm ar ôl 1997, gan nad oedden nhw'n hoffi'r canlyniad, ac aeth i mewn i etholiad 2005 ar sail maniffesto o gynnal ail refferendwm ar fodolaeth y Cynulliad. Felly, ceir lefel benodol o safonau dwbl yn y fan yna y mae'n rhaid ei chydnabod.
Nawr, beth ydw i'n feddwl ddylai ddigwydd? Yn gyntaf, os na chytunir ar gytundeb—mewn geiriau eraill, mae hynny'n golygu 'dim cytundeb' neu ddim cytundeb ar fargen arfaethedig—nid yn San Steffan yn unig ond yn y lle hwn ac yng Nghaeredin hefyd, nid wyf i'n gweld unrhyw ddewis arall ond etholiad cyffredinol, ac, yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, Brexit fyddai'r unig bwnc trafod, rwy'n amau. Yn yr etholiad cyffredinol hwnnw, mae'n iawn i ddweud y gellid trafod y mater yn drylwyr ac y gallai pobl benderfynu. Fodd bynnag, pe byddai canlyniad yr etholiad cyffredinol hwnnw yn amhendant, wel, sut arall ydych chi'n datrys y mater wedyn, ac eithrio trwy fynd yn ôl at yr union bobl a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf ond a fyddai mewn sefyllfa erbyn hyn i weld yn union yr hyn y byddai Brexit yn ei olygu?
Nawr, i mi, dyna'r adeg pan fydd ail refferendwm yn dod yn rhywbeth y byddai angen ei ystyried, oherwydd sut arall ydych chi'n datrys y sefyllfa? Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod yn rhaid i ni aros i weld beth fydd yn digwydd ym mis Hydref a mis Tachwedd ac yna gwneud penderfyniadau o'r fan honno.
Ond, o ran etholiad cyffredinol, os daw'n sefyllfa ddiddatrys yn Nhŷ'r Cyffredin, beth mae'r Prif Weinidog yn credu fyddai'n cael ei gyflawni gan unrhyw ganlyniad sy'n bosib yno, oherwydd, wrth gwrs, mae Theresa May a Jeremy Corbyn yn dymuno mynd â ni allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau? Felly, does bosib nad yw'r dewis o Brexit caled yn ddewis o gwbl.
Ac rwy'n sylwi, yn ei ymateb i Mr Hamilton, ei fod wedi methu ag ateb un cwestiwn pwysig ac amserol iawn, sef, os bydd refferendwm ar y senarios cytundeb neu 'dim cytundeb', a ddylai fod yno gwestiwn hefyd yn gofyn i bobl a ydyn nhw'n dymuno aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu beidio?
Rwy'n credu bod hynny'n debygol. Rwy'n credu bod dau bosibilrwydd yma, onid oes? Os nad oes cytundeb, yna byddai'n gwestiwn o 'dim cytundeb' neu aros. Os bydd cytundeb, byddai pethau'n mynd ychydig yn fwy cymhleth, yn yr ystyr y bydd yn gwestiwn o: 'A ydych yn derbyn y cytundeb? Ond, os na, beth ydych chi'n ei ddymuno:"dim cytundeb" neu aros?' Rwy'n siwr bod yna ffyrdd y gall y Comisiwn Etholiadol ystrywio'r refferendwm hwnnw. Ond, os oes unrhyw gytundeb ar y Bwrdd, wel, yn sicr mae gan bobl yr hawl i fynegi barn ynghylch a ydynt yn dymuno gadael mewn amgylchiadau na fyddai unrhyw gefnogwr Brexit wedi eu hawgrymu. Ni ddywedodd unrhyw un ddwy flynedd yn ôl, ' Os nad oes cytundeb, does dim ots.' Ni ddywedodd unrhyw un hynny. Dywedodd pawb, 'Bydd cytundeb.' Mae hynny wedi newid.
Dydw i ddim yn hoffi'r syniad o ail refferendwm ar yr union un mater, a dyna pam yr oeddwn yn gwrthwynebu ail refferendwm ym 1997. Ond, lle mae amgylchiadau wedi newid yn y bôn, lle mae'r addewidion a wnaed ddwy flynedd yn ôl wedi dod i ddim, yna, ar yr adeg honno, ac os ceir canlyniad amhendant mewn etholiad cyffredinol—. Pwy a ŵyr beth allai pleidiau gynnig mewn etholiad cyffredinol? Rwy'n siŵr y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnig rhywbeth eithaf gwahanol eto. Rwy'n siŵr y bydd ei blaid ef hefyd. Ond mae wedi dod i bwynt lle, os daw'n sefyllfa ddiddatrys, mae angen i bobl benderfynu, ac mae'n rhaid gadael iddyn nhw benderfynu ar sail yr hyn y maen nhw'n ei wybod nawr ac nid ar yr hyn a ddywedwyd wrthyn nhw ddwy flynedd yn ôl, na ddigwyddodd.
Diolch. [Torri ar draws.] Diolch. Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog.