Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 25 Medi 2018.
A gaf i alw am dri datganiad gan arweinydd y tŷ heddiw ar ran y Llywodraeth? Yn gyntaf, o ran y rhwydwaith cefnffyrdd a chynnal a chadw'r rhwydwaith hwnnw. Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod y bu oedi sylweddol ar yr A55 yn y Gogledd yn ddiweddar, yn fy etholaeth i fy hun, o ganlyniad i gau'r ffordd oherwydd y gwaith yn Llanddulas. Mae'r tagfeydd wedi bod cyhyd ag wyth milltir, gydag oedi i draffig o fwy na hanner awr ym mhob cyfeiriad. Nawr, rhoddwyd sicrwydd i ni ar y pryd—rhoddwyd sicrwydd i fy etholwyr—y byddai'r gwaith yn digwydd 24/7 er mwyn cael cyn lleied â phosib o oedi ac amharu. Ond yn anffodus ymddengys nad oes gwaith yn digwydd o gwbl ambell i noson, ac nid yw hyn yn gyson â'r sicrwydd a roddwyd i fy etholwyr o gwbl. Felly, tybed a oes modd ichi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy etholwyr i roi tawelwch meddwl iddyn nhw y bydd cyn lleied â phosib o oedi yn y dyfodol ac y bydd gwaith yn cael ei gynnal drwy gydol y nos nes cwblheir y gwaith.
Yn ail, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog dros yr Amgylchedd? Rwyf wedi bod yn galw yn rheolaidd i fynd i'r afael â phroblemau o amddiffynfeydd arfordir Hen Golwyn, ac roeddwn yn ddiolchgar iawn bod y Gweinidog wedi ymweld â fy etholaeth i arolygu'r amddiffynfeydd ei hun. Ond, er gwaetha'r ffaith bod y cyfarfod a gynhaliwyd yn gadarnhaol iawn, rwyf wedi cael llythyr yn ddiweddar gan y Gweinidog yr ymddengys ei fod yn awgrymu nad yw hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac na fydd y lefel arferol o arian grant ar gael i weithredu'r cynllun, oherwydd ei bod yn llai tebygol y bydd cartrefi preswyl yn elwa nag y mae'r Llywodraeth yn ei ddychmygu. Nawr, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o rwydwaith amddiffyn yr arfordir sy'n diogelu seilwaith trafnidiaeth hanfodol, sef y gefnffordd A55 a rheilffordd Gogledd Cymru ac sy'n gwarchod y system garthffosiaeth ar gyfer Bae Colwyn cyfan. Felly, sut yn union y gellir awgrymu nad yw hyn o fudd i gartrefi a busnesau, mae hyn y tu hwnt i mi. Nawr, bydd angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â'r broblem hon a dwyn ynghyd y gwahanol bartïon y mae angen iddyn nhw gyfrannu at y gwaith, ac mae'n rhaid imi ddweud fy mod wedi fy syfrdanu i gael y llythyr hwn, ac roedd yr awdurdod lleol wedi'i syfrdanu hefyd, yn dilyn y cyfarfod hwnnw a oedd, yn fy marn i, yn gynhyrchiol iawn. Felly, byddwn yn ddiolchgar cael datganiad gan y Gweinidog ar amddiffynfeydd yr arfordir a phe gallai egluro'r sefyllfa.
Ac, yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar wiwerod coch? Mae pobl yn gwybod fy mod yn hyrwyddwr y wiwer goch yma yn y Cynulliad Cenedlaethol. Daeth cyfle imi ymweld â'r gwaith cadwraeth ardderchog sy'n digwydd yng nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth i ac ar Ynys Môn, sy'n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru mewn partneriaeth â Red Squirrels United. Yr wythnos hon mae'n Wythnos Ymwybyddiaeth o Wiwerod Coch, ac mae'r Sw Fynydd Gymreig yn fy etholaeth i yn rhan o raglen fridio ryngwladol ar gyfer y rhywogaeth warchodedig bwysig iawn hon. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd fel y bydd y gwaith da a wneir gan y prosiectau hyn yn gallu parhau ar ôl i'r cyllid grant cyfredol ddod i ben y flwyddyn nesaf. Diolch.