Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 25 Medi 2018.
Mae Llŷr Gruffydd yn gwneud dau bwynt pwysig iawn. Edrychaf ymlaen at weld fy mheint o laeth yn cyrraedd; mae bob amser yn ddiod braf, ffres. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn nodi i mi ei bod yn hapus iawn i gyflwyno datganiad am sefyllfa'r negodi parhaus â DEFRA ynghylch y cymhorthdal.
Hefyd, ar y pwynt am yr adroddiad pwysig iawn, rwy'n cytuno'n llwyr â sylwadau'r Aelod ar y mater. Cyn gynted ag y bydd gennym ni ymateb sy'n barod i fynd, byddwn yn rhoi cyfle arall i'r Aelodau gael trafodaeth lawn ar yr adroddiad, ac ymateb y Llywodraeth.