Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 25 Medi 2018.
Mae canolfannau hamdden, fel y gŵyr yr Aelod, yn fater i'r awdurdod lleol, ond yr wyf yn rhannu ei bryder fod yr agenda o gyni yn dylanwadu ar rai penderfyniadau ynghylch gofal iechyd uwch yn y gadwyn, os mynnwch chi—penderfyniadau ynghylch y math o weithgareddau hamdden, ac, mewn gwirionedd, cyfleusterau sy'n ymwneud â chydlyniant cymunedol. Nid yw'n fater i ni sut y mae Caerffili yn ymgynghori ar y materion hyn, ond yr wyf yn sicr pe bai'n ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet gyda'i bryderon, yna fe allwn ni edrych ar hyn ymhellach.