Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 25 Medi 2018.
Mae ymrwymiad llwyr yr Aelod i hyn ers cryn amser yn hysbys iawn, ac rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Prif Weinidog i'n cadarnhad ni, cyn belled ag y gallwn, o elfennau o gonfensiwn Istanbul. Yn amlwg, bydd yn rhaid iddo gael ei gadarnhau ar lefel y wladwriaeth ac, yn anffodus, nid ydym yn gallu gwneud hynny i gyd ein hunain. Ond rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU a byddwn yn ymrwymo, ac rydym eisoes wedi ymrwymo, cyn belled â phosib, i ymgorffori yn neddfwriaeth Cymru holl elfennau confensiwn Istanbul sy'n gymwys i ni fel gweinyddiaeth ddatganoledig.
Fel y mae'r Aelod yn ei nodi, dibenion y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 oedd atal trais yn erbyn menywod, trais ar sail rhywedd a cham-drin domestig a thrais rhywiol, a chefnogi ac amddiffyn dioddefwyr a goroeswyr. A bod yn deg, mae gan y DU eisoes rai o'r amddiffyniadau mwyaf cadarn yn y byd rhag trais yn erbyn menywod. Ceir rhai materion awdurdodaeth alldiriogaethol nad ydyn nhw wedi eu cynnwys mewn cyfraith ddomestig eto ar lefel y DU. Mae angen deddfwriaeth sylfaenol arnyn nhw ar gyfer eu cyflwyno ledled y DU cyn y byddwn yn gallu cadarnhau'r elfennau hynny'n llawn fel y Deyrnas Unedig. Nid ydynt yn gymwys yma yng Nghymru. Bydd y Bil Cam-drin Domestig y mae deddfwrfa'r Deyrnas Unedig wedi ei amlinellu yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol ar awdurdodaeth alldiriogaethol i ymgorffori'r rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu goruchwylio gan Lys Cyfiawnder Ewrop mewn cyfraith ddomestig, fel y gallwn fod yn sicr hyd yn oed wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, na chawn ein hamddifadu o'r amddiffyniadau hynny rhag trais rhywiol, sydd mor angenrheidiol yn y byd yr oedd Joyce Watson yn ei gyfleu mor fedrus.