4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Cyflawni ar Awtistiaeth wedi'i Ddiweddaru a'r Cod Ymarfer Awtistiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:26 pm ar 25 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:26, 25 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd.

Cydnabyddir yn gyffredinol bod gwasanaethau awtistiaeth yn gwella, ond rwy'n ymwybodol iawn bod llawer o bobl awtistig a'u teuluoedd yn dal i wynebu brwydr ddyddiol i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Rwy'n deall bod yn rhaid i wasanaethau nid yn unig barhau i wella, ond gwella'n gyflymach hefyd.

Dyna pam, heddiw, fy mod i wedi cyhoeddi fersiwn diwygiedig o'r cynllun cyflawni ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig. Mae'r cynllun diwygiedig yn adlewyrchu ymrwymiadau newydd pwysig i wella gwasanaethau. Mae'r ymrwymiadau newydd hyn yn adlewyrchu'r adborth yr ydym ni a'n partneriaid wedi ei glywed gan bobl awtistig, eu teuluoedd, gofalwyr a rhanddeiliaid ehangach. Mae'r ymrwymiadau'n cynnwys: cyhoeddi cod ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006; cyhoeddi cod ymarfer ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a chyflwyno'r system ADY newydd o 2020 ymlaen; diweddaru ac ehangu canllawiau awtistiaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer darparwyr tai; gwella casglu data drwy ddatblygu cofrestri awtistiaeth ar gyfer meddygon teulu; ymgynghori ar wneud awtistiaeth yn thema annibynnol ar gyfer asesiadau o anghenion poblogaeth y dyfodol; codi ymwybyddiaeth drwy wella ymgysylltiad a chyfranogiad pobl awtistig wrth ddatblygu polisïau; ac ehangu'r gwerthusiad annibynnol i edrych ar yr hyn sy'n gyffredin rhwng gwasanaethau niwroddatblygiadol plant a gwasanaethau awtistiaeth ehangach a mynd i'r afael â'r rhwystrau parhaus i leihau amseroedd aros am ddiagnosis.

Rwyf eisiau dweud rhagor heddiw am fy mwriadau ar gyfer y cod ymarfer statudol ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth, yr wyf eisoes wedi ymrwymo i'w gyhoeddi o fewn tymor y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Bydd y cod hwn yn nodi sut y dylai awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'u partneriaid fod â gwasanaethau ar gael i ddiwallu anghenion a nodwyd gan bobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Ym mis Tachwedd, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ar yr hyn y mae angen inni ganolbwyntio arno yn y cod awtistiaeth. Bydd y cod yn cael dylanwad sylweddol ar ble a sut y mae awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn blaenoriaethu adnoddau a sut y maen nhw'n darparu gwasanaethau awtistiaeth mewn gwirionedd. Mae angen inni gael y cydbwysedd cywir rhwng gwneud canlyniadau penodol yn ofynnol ac ar yr un pryd galluogi arloesi parhaus.

Bydd y ddogfen ymgynghori yn adlewyrchu'r adborth a dderbyniwyd eisoes gan randdeiliaid, gan gynnwys ein grŵp cynghori ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Wrth imi ystyried profiadau unigolion yn brwydro i gael y cymorth sydd ei angen, rwy'n benodol eisiau clywed rhagor gan bobl awtistig a'u rhieni, gofalwyr a'r teulu ehangach ynghylch yr hyn y maen nhw eisiau ei weld mewn cod ymarfer a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol yn eu bywydau bob dydd. Rydym ni hefyd eisiau clywed rhagor gan y rhai hynny sy'n darparu cymorth, a fydd yn gallu cynghori ar yr hyn sydd eisoes yn digwydd i ddweud wrthym ni lle y dylid gwneud gwelliannau. Rydym ni hefyd eisiau gwybod a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol a allai godi oherwydd unrhyw ganllawiau yr ydym ni'n dewis eu rhoi ar waith.

Bydd y ddogfen ymgynghori yn canolbwyntio ar bum maes allweddol a bydd yn ceisio casglu llawer o'r materion a nodir yn y Bil awtistiaeth yr wyf yn credu y gellir rhoi sylw iddyn nhw heb yr angen am y ddeddfwriaeth a gynigir ym Mil Awtistiaeth (Cymru) sy'n dechrau ar ei gyfnod craffu ar hyn o bryd. Y rhain yw: asesu a rhoi diagnosis; manteisio ar ofal a chymorth; hyfforddiant staff; cynllunio; ac ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn am adborth ar feysydd lle y gallai ein cynlluniau achosi niwed yn anfwriadol i wasanaethau presennol a llesteirio cyflawniad llwyddiannus y cynllun gweithredu strategol ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig, yn arbennig y gwasanaeth awtistiaeth integredig cenedlaethol. Er enghraifft, rydym yn bwriadu cynnal y safon amser aros am asesiad o 26 wythnos ar gyfer plant ac ehangu hyn i wasanaethau oedolion. Nid ydym yn credu ei bod yn ddoeth newid y trefniadau hyn, gan y bydd ein dull sydd wedi ei brofi yn galluogi darparwyr gwasanaethau i drefnu a darparu apwyntiadau asesu cyntaf yn brydlon, yn hytrach na dim ond nodi bod asesiad wedi dechrau, fel y cynigiwyd yn y Bil awtistiaeth. Bydd ein dull yn helpu i sicrhau bod digon o adnoddau yn parhau i fod ar gael i ddarparu gwasanaeth ar ôl rhoi diagnosis. Credaf nad oes llawer i'w ennill drwy ganolbwyntio adnoddau sydd o dan bwysau ar wasgu unigolion drwy asesiad ar draul darparu gofal ymhellach yn y broses, lle mae ei angen fwyaf.

Bydd y cod, pan gaiff ei gyhoeddi, yn atgyfnerthu'r dyletswyddau a osodir eisoes ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau asesu awtistiaeth, ac yn nodi canllawiau ynglŷn â threfniadau a chwmpas darpariaeth y gwasanaeth. Bydd yn amlygu bod angen cydymffurfio â llwybrau diagnostig y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, sydd eisoes wedi'u cyhoeddi, a thrwy annog swyddogaethau arweiniol penodol i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu hadolygu'n rheolaidd ac yn adlewyrchu arferion cyfredol. Bydd canllawiau hefyd ar sut y dylai pobl awtistig allu manteisio ar wasanaethau gofal a chymorth sy'n seiliedig ar eu hanghenion a'u bod ar gael drwy addasu arferion. Dylai hynny adlewyrchu'r dyletswyddau presennol mewn deddfwriaeth gofal cymdeithasol.

Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym ni hefyd wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth godi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith gwasanaethau ac ar draws y gymuned. Ac rydym ni eisiau gwneud mwy drwy ofyn i wasanaethau gynnal asesiad o anghenion hyfforddi pob un o'u staff ac yna darparu hyfforddiant a nodwyd ei fod yn addas ar gyfer eu swyddogaeth a'u profiad. Mae fframwaith awtistiaeth cenedlaethol Cymru ar gael fel adnodd i wneud y gwaith hwn eisoes.

Bydd y cod hefyd yn rhoi canllawiau ychwanegol i fyrddau partneriaeth rhanbarthol ynghylch cynllunio gwasanaethau a dyletswyddau presennol i gynnal asesiad anghenion y boblogaeth. Byddwn yn gwneud awtistiaeth yn thema graidd orfodol annibynnol ar gyfer asesiadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod gan ranbarthau gynlluniau clir ar waith i ddarparu a monitro gwasanaethau awtistiaeth. Ac, yn olaf, ond efallai yn fwyaf pwysig, bydd y canllawiau newydd yn nodi'r camau y dylid eu cymryd i sicrhau bod pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd cynllunio ac yn ymwneud â datblygu'r gwasanaeth.

Wrth ddatblygu'r cod, byddaf wrth gwrs yn ystyried y gwaith a wneir ar Fil Awtistiaeth (Cymru) a arweinir gan un o'n Haelodau Cynulliad, a gyflwynwyd yn ddiweddar. Wrth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon gasglu tystiolaeth ar y ddeddfwriaeth arfaethedig dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddaf wrth gwrs yn gwrando. Byddaf yn mynychu'r pwyllgor ac yn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Fodd bynnag, rwy'n dal i gredu nad y Bil yw'r ateb cywir i wella gwasanaethau i bobl, yng nghyd-destun yr ystod o ddatblygiadau gwasanaeth sy'n cael, neu a fydd yn cael eu rhoi ar waith. Yng nghyd-destun yr holl gamau gweithredu yr wyf wedi eu hamlinellu heddiw, ni fydd y ddeddfwriaeth bosibl sy'n cael ei thrafod yn y Cynulliad, yn fy marn i, yn darparu adnoddau newydd i ni wella gwasanaethau. Fe fyddai, er hynny, yn fy marn i, yn sefydlu cyfres anhyblyg o ofynion sy'n debygol o wneud niwed i'r cynnydd y mae ein gwasanaethau yn ei wneud. Ni fydd yn arwain at fwy o arian yn cael ei roi yn y system; byddai'n arwain at adnoddau presennol yn cael eu defnyddio'n llai effeithiol.

Rwy'n credu ein bod ar y trywydd iawn. Yn hytrach na newid cwrs nawr, mae angen inni fwrw ati i gyflawni, gan gynnwys drwy gymryd y camau yr wyf wedi eu hamlinellu heddiw. Ac rwy'n gobeithio y gall cydweithwyr ar draws y pleidiau gefnogi ein cynllun ac, o ganlyniad, y bydd canlyniadau ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr yn parhau i wella.