Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 2 Hydref 2018.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n sylweddoli mai cyfrifoldeb y bwrdd iechyd yw gwneud y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd o ddydd i ddydd yng Nghaerdydd a'r Fro, ond ceir lefel o ryngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r bwrdd iechyd. Un o'r prif bwyntiau o anhawster y llynedd oedd y ddarpariaeth o welyau yn yr ysbytai yn yr ardal honno. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i bobl Caerdydd a'r Fro y bydd gwelyau ychwanegol ar gael i ymdrin â'r pwysau gormodol a fydd heb os yn digwydd yn ystod misoedd y gaeaf?