Refferendwm Arall ar yr UE

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:12, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, os nad yw Prif Weinidog y DU yn gallu sicrhau cytundeb ar delerau terfynol ymadawiad y DU â'r UE, dylai fod etholiad cyffredinol, yn fy marn i. Os nad oes etholiad cyffredinol neu os bydd etholiad cyffredinol yn cyflwyno canlyniad amhendant, sut arall y gellir datrys y mater heblaw drwy ail refferendwm?