Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 2 Hydref 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r gaeaf yn prysur agosáu, ac mae'r rhagolygon yn awgrymu bod hwn yn mynd i fod yn un gwael. Nid yw'n ymddangos eich bod chi byth yn ateb cwestiynau, a bob amser yn rhoi'r bai ar gyni cyllidol y Torïaid. Pa gymorth y mae eich Llywodraeth yn bwriadu ei roi i awdurdodau lleol a'r asiantaethau sydd ar y rheng flaen yn ymdrin â'r epidemig cysgu ar y stryd yng Nghymru?