Refferendwm Arall ar yr UE

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 2 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 2 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf i'n cymryd unrhyw gyngor gan UKIP. Eu polisi presennol nhw yw ail refferendwm ar ddatganoli beth bynnag heb sylweddoli'r eironi yn eu sylwadau. Os bydd pobl yn canfod eu hunain mewn sefyllfa lle mai Brexit 'dim cytundeb' yw'r cwbl sydd ar y bwrdd, er na soniodd neb am Brexit 'dim cytundeb' ddwy flynedd yn ôl, a yw hi wir yn onest i ddweud wrth bobl, 'Anlwcus. Cawsoch leisio eich barn ar hyn ddwy flynedd yn ôl. Iawn, ni thrafodwyd y dewis hwn neu nid oedd ar y bwrdd, ond mae hynny'n anffodus oherwydd rydych chi eisoes wedi mynegi barn'? Nid wyf i'n meddwl mai democratiaeth yw hynny. Does bosib na ddylai pobl gael y cyfle, pa un a—fy newis i—trwy etholiad cyffredinol a fyddai'n cynnig canlyniad pendant wedyn, yna byddai hynny'n golygu na fyddai angen refferendwm ar yr adeg honno, neu, yn ail, pe byddai'r etholiad yn amhendant, beth sydd mor wael am ofyn i'r bobl am hyn, a wnaeth y penderfyniad yn y lle cyntaf?