Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb. Ond Ysgrifennydd y Cabinet, mewn seminar a gynhaliwyd gan brif swyddog cynllunio Cymru, gofynnwyd cwestiwn iddo ynglŷn ag a oedd deddfau cynllunio i'w cael a fyddai'n caniatáu i awdurdodau lleol orfodi perchnogion i gynnal ymddangosiad cosmetig safleoedd masnachol gwag. Wrth gwrs, byddai hyn yn gwella ymddangosiad canol trefi, gan eu gwneud yn fwy effeithiol, efallai, am ddenu busnesau newydd. Yn anffodus, ei ateb oedd nad oes unrhyw ddarpariaethau yn Neddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 heblaw y dylid gweithredu os oedd safle'n peri risg uniongyrchol. A allai Ysgrifennydd y Cabinet edrych ar y posibilrwydd o roi pwerau i awdurdodau lleol fynnu bod perchnogion yn gwneud y gwaith cynnal a chadw cosmetig hwn?