Targed Gostwng Carbon 2030

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:01, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Mae eich ymgynghoriad yn nodi rhai targedau heriol yng nghyd-destun arbenigwyr ar newid hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r Llywodraeth yn cymryd y camau y mae angen eu cymryd os ydym am osgoi lefelau cynyddol o gynhesu byd-eang. Cafwyd gwybodaeth dorcalonnus heddiw fod Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto wedi methu codi'r ardoll tanwydd, sy'n ymdrechu i adlewyrchu gwir gost defnydd pobl o gerbydau preifat. A hoffwn ddeall sut y credwch y byddwch yn cyrraedd y targed heriol iawn o 43 y cant o ostyngiad mewn allyriadau cerbydau erbyn 2030 yng nghyd-destun y cynnig i fuddsoddi £1.5 biliwn mewn ychydig filltiroedd o ffordd ar ffordd liniaru'r M4, oherwydd mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dadlau y bydd hyn yn arwain at gynnydd o 42,000 o gerbydau'n defnyddio'r ffordd honno bob dydd. Felly, hoffwn ddeall beth yw eich strategaeth ar gyfer lleihau allyriadau cerbydau heb leihau nifer y cerbydau ar y ffordd, a buddsoddi yn lle hynny mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.