Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 3 Hydref 2018.
Pe baem wedi cynnal asesiadau effaith a gwneud gwaith modelu helaeth cyn yr ymgynghoriad, buaswn wedi cael fy meirniadu am hynny. Ni allwch fodloni rhai pobl, ac yn anffodus, credaf mai hon yw'r ffordd fwyaf priodol o'i wneud. Fel y dywedais, cwblheir yr holl waith modelu ac asesiadau cyn y byddwn yn ymgynghori yn y gwanwyn ar y cynlluniau penodol. Cafwyd cyswllt gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar lefel swyddogol, ac rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda chyd-Weinidogion.