Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch. Mae byrddau iechyd lleol yn gyrff ymgynghori penodol a nodir yn rheoliadau'r cynlluniau datblygu lleol. Maent yn darparu cyngor i awdurdodau cynllunio lleol ynglŷn â gofynion tir ar gyfer datblygu eu hystâd eu hunain yn ogystal â'r gallu i ddatblygiadau newydd gael eu gwasanaethu gan gyfleusterau iechyd presennol ac arfaethedig.