Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 3 Hydref 2018.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hon yn drwydded fyw, ac fel y cyfryw, fod hwn yn fater i Cyfoeth Naturiol Cymru. Hwy yw'r awdurdod trwyddedu, ac mae'r hyn y gallaf ei ddweud ynglŷn â thrwyddedau morol penodol yn gyfyngedig, o ystyried rôl statudol Gweinidogion Cymru o dan y gyfundrefn. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwnnw, fel y dywedais, i nodi'r broses. Deallaf y bydd dadl yr wythnos nesaf hefyd, ond hoffwn roi sicrwydd i bobl fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar gyngor arbenigol yn unol â'r weithdrefn asesu radiolegol a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol.