Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 3 Hydref 2018.
Wel, fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Bethan Sayed fy mod yn ystyried a ddylai byrddau iechyd fod yn ymgyngoreion gorfodol yn y broses o wneud y penderfyniadau. Mewn llawer o achosion, credaf fod capasiti'r cyfleusterau gofal sylfaenol yn ystyriaeth bwysig a pherthnasol iawn wrth i chi gynllunio rhinweddau datblygiad mewn ardal benodol.
Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd lleol gymryd rhan yn y broses o baratoi cynlluniau datblygu lleol gydag awdurdodau cynllunio, o gofio eu cyfrifoldeb, yn amlwg, i ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol ar gyfer y boblogaeth leol. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod meddygfeydd, ar sail unigol, yn bwydo i mewn i'r broses honno hefyd.