Y Gwasanaeth Prawf

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:22, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, yn fy ateb cynharach, dywedais fy mod wedi bod yn trafod y materion hyn ar lefel weinidogol a swyddogol ers peth amser, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir wrth yr Aelodau yma yn y gorffennol. Rwy'n cydnabod y cynnig a wnaed gan yr Aelod dros y Rhondda, ac rwy'n fwy na pharod i gynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, rydym yn ystyried ailuno'r gwasanaeth prawf yng Nghymru, i fod yn un gwasanaeth sy'n atebol i'r cyhoedd. Rydym yn edrych ar y ffordd y caiff y contractau adsefydlu cymunedol eu dirwyn i ben yng Nghymru, a bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu fe un gwasanaeth cyhoeddus cydlynol—a dyna yw sail y sgyrsiau rwy'n eu cael ar hyn o bryd. Ac er mwyn archwilio safbwyntiau'r Aelodau ar y materion hyn ymhellach, rwyf wedi cynnig cael dadl ar y mater yn ddiweddarach y mis hwn.