Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:35, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn ymateb drwy gytuno â Sefydliad Bevan yn eu dadansoddiad. Yn amlwg, rydym angen y lefel honno o ddealltwriaeth o effeithiau tlodi ar bobl os ydym am ei drechu mewn ffordd fwy cyfannol. Efallai y gallwn ateb y cwestiwn gydag enghraifft sydd o fewn fy mhortffolio mewn gwirionedd, mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, lle'r ydym yn edrych ar yr union ystod honno o ddangosyddion i ddeall natur tlodi yn ein cymunedau, ond hefyd yr offer a'r dulliau sydd gennym y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael â'r tlodi hwnnw. Gadewch i mi ddweud hyn: mae'n bwysig ein bod yn gallu ymosod ar dlodi wrth ei wraidd. Dyna pam rydym yn ceisio creu gwaith, ond gwaith teg, a sicrhau wedyn nad ymdrin â'r agweddau economaidd yn unig a wnawn, ond yn hytrach ein bod yn edrych ar holl agweddau cymdeithasol, teuluol, cymunedol a diwylliannol tlodi yn ogystal, fel y gallwn fynd i'r afael â thlodi yn y ffordd gyfannol y tybiaf fod Sefydliad Bevan yn ei disgrifio, ac y gobeithiaf fod llefarydd y Ceidwadwyr yn ei disgrifio hefyd.