Torri Gwasanaethau Cynghorau Lleol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:51, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydych newydd gydnabod yr heriau anodd sy'n wynebu awdurdodau lleol ledled Cymru, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond mae awdurdodau lleol gwledig yn dioddef toriadau dwfn iawn i'w grant cynnal refeniw flwyddyn ar ôl blwyddyn. Er enghraifft, Cyngor Sir Powys, gydag un cyngor arall, sydd wedi dioddef y toriad dyfnaf am y 10 mlynedd diwethaf. Fe fyddwch yn deall yr heriau y mae awdurdodau lleol gwledig yn eu hwynebu mewn perthynas â darparu gwasanaethau ar draws ardal ddaearyddol fawr a'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â hynny. Felly, pa newyddion cadarnhaol allwch chi ei roi i awdurdodau lleol gwledig o ran y grant cynnal refeniw?