Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 3 Hydref 2018.
Nid wyf eisiau defnyddio terminoleg o'r fath i ddisgrifio'r ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio. A gaf fi ddweud hyn? Credaf fod llawer o gymhlethdod yn y ffordd rydym yn llywodraethu a'r prosesau a'r strwythurau sydd gennym. Un o fy uchelgeisiau ac un o fy amcanion yw lleihau ein cymhlethdod yn y Llywodraeth a lleihau faint o lywodraethu, os hoffech chi, sy'n digwydd yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld strwythurau symlach sy'n galluogi'r cyhoedd i ddwyn gwleidyddion y mae pawb yn gwybod pwy ydynt i gyfrif am y penderfyniadau a wnânt, ac rwyf eisiau gweld gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus yn teimlo bod yna arweinyddiaeth glir iawn gan yr arweinwyr gwleidyddol yn lleol ac yn y lle hwn. Felly, rwyf eisiau gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn ffordd lawer symlach yng Nghymru. Rwyf eisiau gweld mwy o weithredu a llai o gyfarfodydd, ac rwy'n gobeithio bod yr hyn y mae'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ei wneud yn dechrau cyflawni hynny. Ond ar ôl gweld y cynlluniau llesiant yn gynharach yn yr haf, rwy'n teimlo ei bod hi'n iawn ac yn briodol ein bod yn gadael i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus hynny bellach gael rhyddid a chyfle i gyflawni'r amcanion y maent wedi'u gosod iddynt eu hunain.