Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 3 Hydref 2018.
Ers y drasiedi ofnadwy yn Nhŵr Grenfell, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed iawn, yn gyntaf oll, ar nodi pob un o'n hadeiladau uchel, a gweithio gyda'r rheini i ddarganfod a oedd cladin ACM arnynt. Felly, gallaf gadarnhau bod gan Lywodraeth Cymru berthynas bersonol, mewn gwirionedd, gyda phob un o'r adeiladau uchel hynny sydd gennym yng Nghymru er mwyn ceisio sicrhau bod y preswylwyr sydd ynddynt mor ddiogel â phosibl a'n bod yn gallu cynnig y cyngor gorau posibl. Rydym wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r gwasanaethau tân ac achub a chyda'r awdurdodau lleol sydd ag adeiladau uchel yn eu hardaloedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu bod mor hyderus â phosibl ynglŷn â diogelwch yr adeiladau hynny a'r bobl sy'n byw ynddynt.