Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 3 Hydref 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n sylweddoli ein bod eisoes wedi crybwyll y materion hyn yn y Siambr heddiw. Credaf ei bod yn amlwg fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl hanfodol i'w chwarae yn gweithio gyda chymunedau i wella eu cynlluniau a'u strategaethau llesiant, ac yna i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n briodol, gan weithio yn y ffordd drawsbynciol honno ar draws y cyrff sector cyhoeddus. Ac wrth gwrs, mae gennym waith pwyllgorau craffu'r awdurdodau lleol ac yn wir, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, yn sicrhau eu bod yn effeithiol yn y ffordd honno. Rwy'n meddwl tybed beth y byddech yn ei ddweud am rôl Llywodraeth Cymru yn llunio trosolwg o effeithiolrwydd gwaith y byrddau gwasanaethau cyhoeddus, ac a oes angen yr haen ychwanegol honno o waith craffu a chymorth, os oes ei angen, i wneud yn siŵr fod y byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio'n effeithiol ac yn effeithlon ledled Cymru.