Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae lansiad y grŵp gweinidogol newydd ym mis Mehefin, gyda'r diben o fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc a goruchwylio prosiectau tai yn gyntaf, yn gam ymlaen sydd i'w groesawu'n fawr, ac mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc, a bydd gweithio cydweithredol hefyd yn helpu i gyflawni'r nod hwnnw. Ar ddechrau'r flwyddyn, rwy'n cofio i chi ddweud eich bod wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer nifer o'r prosiectau hynny mewn gwahanol awdurdodau lleol ac y byddai'r rheini'n cael eu defnyddio ar gyfer y model tai yn gyntaf hwnnw. Gwn ei bod yn gynnar o hyd, ond rwy'n awyddus i wybod a ydych wedi cael unrhyw adborth o'r prosiectau eto ac os ydych, sut y bwriadwch ddatblygu'r rheini a'u cyflwyno'n ehangach ledled Cymru.