Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, rŷch chi'n gwybod cystal â fi mai'r realiti yw bod cynghorau yn wynebu'r sefyllfa anodd o fod yn torri gwasanaethau ar un llaw ac yn codi trethi cyngor ar y llaw arall, a chyngor sir Conwy yw'r mwyaf diweddar i fod yn sôn am godiadau posibl o gwmpas 11 y cant, pan, wrth gwrs, ar yr un pryd, nad oes yna ddim gwerth o wasanaethau anstatudol ar ôl i'w torri.
Gyda chynghorau ar eu gliniau a mwy o doriadau ar y gorwel y flwyddyn nesaf, ac o gofio beth sydd wedi digwydd i rai awdurdodau yn Lloegr, er enghraifft Northampton, lle maen nhw wedi methu â pharhau i fod yn ddarparwyr gwasanaethau front line, a gaf i ofyn a oes gan Lywodraeth Cymru broses i ddelio â'r sefyllfa petai sefyllfa debyg yn codi ymhlith un o awdurdodau lleol Cymru? Hynny yw, a fyddech chi'n barod ar gyfer sefyllfa o'r fath?