Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon am y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog sy'n codi o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ym mis Gorffennaf, adroddodd fy mhwyllgor ar faterion gweithredol yn ymwneud â chraffu ar reoliadau a fydd yn codi o ganlyniad i Ddeddf 2018. Gwnaethom 12 o argymhellion, ac roedd naw ohonynt yn effeithio ar y Rheolau Sefydlog.
Roedd ein hadroddiad yn canolbwyntio ar dri maes yn y Ddeddf sy'n galluogi Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, gwnaethom edrych ar bwerau Gweinidogion Cymru i ymdrin â diffygion yng nghyfraith y DU yn deillio o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y mecanwaith sy'n galluogi pwyllgor i ddidoli rheoliadau penodol i weld a ddylent fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol yn hytrach na'r weithdrefn negyddol.
Yn ail, edrychasom ar bwerau Gweinidogion y DU i weithredu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli a sut y dylid craffu arnynt. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf, buom yn ystyried sut y dylem graffu ar reoliadau a wnaed gan Weinidogion y DU i gyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, o ystyried y cytundeb rhynglywodraethol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Yn gyffredinol, rydym yn fodlon gyda'r newidiadau a wneir i'r Rheolau Sefydlog ac yn croesawu'r ffaith y bydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn cymryd cyfrifoldeb dros ddidoli rheoliadau sy'n deillio o Ddeddf 2018. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw'r Cynulliad at ddwy agwedd ar y newidiadau sy'n cael eu gwneud.
O ran ein hail argymhelliad, sef y dylid cyhoeddi'r meini prawf ar gyfer didoli rheoliadau, rydym wedi ysgrifennu at y Llywodraeth ers hynny yn derbyn eu cynnig, i bob pwrpas, y dylid eu cynnwys yn y Rheolau Sefydlog. Mae hyn yn adlewyrchu argymhelliad cynharach mewn adroddiad a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror am y ddeddfwriaeth wrth iddi gael ei chraffu yn Senedd y DU.
Rydym yn siomedig o hyd, fodd bynnag, na chafodd ein trydydd argymhelliad ei adlewyrchu yng nghynigion newydd y Rheolau Sefydlog. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â'r mecanweithiau didoli a'r amgylchiadau lle nad yw Llywodraeth Cymru'n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol wrth wneud rheoliadau, yn hytrach na'r weithdrefn negyddol. Nod ein hargymhelliad oedd ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud datganiad yn egluro pam nad ydynt yn cytuno ag argymhelliad pwyllgor cyn i'r rheoliadau gael eu gwneud—hynny yw, cyn iddynt gael eu rhoi ar waith yn gyfreithiol. I'r perwyl hwnnw, ceisiodd adlewyrchu darpariaethau yn Neddf 2018 sy'n berthnasol i Weinidogion y DU. Nid oedd darpariaethau'r Ddeddf yn berthnasol i Weinidogion Cymru gan nad oedd digon o amser seneddol i Lywodraeth y DU geisio cydsyniad y Cynulliad Cenedlaethol i'r newidiadau.
Ar ôl derbyn ein hargymhelliad, awgrymodd Llywodraeth Cymru ddull o weithredu i'r Pwyllgor Busnes, sef gwneud datganiad fel rhan o'r memorandwm esboniadol. Ar gyfer rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol, gosodir y memorandwm esboniadol ar ôl gwneud rheoliadau. Mae adroddiad y Pwyllgor Busnes ar y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn nodi bod manteision ein hargymhelliad wedi eu gorbwyso gan fanteision ymarferol cynnig amgen Llywodraeth Cymru, sydd bellach wedi'i nodi yn Rheol Sefydlog 27.9B.
Efallai fod amseriad gosod datganiad i'w weld yn ddibwys, ond mae'r broses seneddol a'r ymddiriedaeth yn y broses honno yn rhan hanfodol o'n democratiaeth. Mae pwynt amlwg a phwysig o egwyddor yma, a dyna pam ei bod yn bwysig i'r mater hwn gael ei gofnodi. Pe bai'r pwyllgor yn argymell newid rheoliadau o'r weithdrefn negyddol i'r weithdrefn gadarnhaol, o dan y Rheol Sefydlog arfaethedig ni fydd Aelodau'r Cynulliad ond yn cael gwybod am benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod yr argymhelliad ar ôl i'r rheoliadau gael eu gwneud, ac felly ar ôl iddynt gael eu rhoi ar waith yn gyfreithiol. Felly, gallai hyn ddirymu diben y dull didoli. Cafodd y mecanwaith hwnnw ei gynnwys yn Neddf 2018 fel ffordd o atal trosglwyddo pŵer gormodol o'r ddeddfwrfa i'r Weithrediaeth. Yn ein barn ni, ni ddylai manteision ymarferol proses fod ar draul priodoldeb cyfansoddiadol ac arferion da, felly rydym wedi gofyn am eglurhad ffurfiol gan Lywodraeth Cymru pam yr awgrymodd ei dull amgen, ac edrychwn ymlaen at gael ymateb ysgrifenedig maes o law. Byddwn hefyd yn cadw llygad agos ar ansawdd y datganiadau a wneir gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â pham eu bod yn anghytuno ag argymhelliad gan y pwyllgor, os yw'r sefyllfa honno'n codi. Nodwn y gallai datganiadau gwael gynyddu'r tebygolrwydd y bydd Aelodau'r Cynulliad yn cyflwyno cynigion i ddirymu rheoliadau penderfyniadau negyddol. Felly, yn y cyfamser, rydym yn bwriadu cadw golwg ar effaith Rheol Sefydlog 27.9B, ac fe allem awgrymu newidiadau yn y dyfodol os ydym yn ystyried bod hynny'n briodol.
Gan droi at ddau fater arall yn gyflym, rwy'n ddiolchgar iawn i arweinydd y tŷ am ein cynghori, yn unol ag argymhelliad 4 ein hadroddiad, y bydd angen oddeutu 50 o reoliadau i unioni diffygion yng nghyfraith ddomestig yr UE, ac edrychwn ymlaen at dderbyn diweddariad ar nifer y rheoliadau y bydd eu hangen i unioni diffygion mewn offerynnau UE sy'n uniongyrchol berthnasol. Bydd cynllunio ein rhaglen waith i ddarparu ar gyfer y cynnydd yn nifer y rheoliadau o ganlyniad i Brexit yn hanfodol, a dyna'r rheswm pam fod argymhelliad 6 yn ein hadroddiad wedi awgrymu ein bod yn llunio cytundeb gyda Llywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli'r craffu ar reoliadau sy'n gysylltiedig â Brexit. Felly, mae'n braf fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar delerau protocol er mwyn i waith craffu ar reoliadau cywiro fod mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ am y trafodaethau cadarnhaol ac adeiladol iawn a gawsom, ac rydym wedi gallu cyflawni'r hyn y credaf ei fod yn brotocol pwysig sy'n torri tir newydd ar gyfer y Cynulliad hwn. Felly, ar ran y pwyllgor, edrychaf ymlaen at weithio gyda'r Llywodraeth ar y ddeddfwriaeth gyfansoddiadol bwysig hon a'r heriau y byddwn yn eu hwynebu maes o law o ganlyniad i Brexit.