Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 3 Hydref 2018.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddiabetes, hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a'r rhai a gymerodd ran yn nhaith y ddeiseb hon drwy'r Cynulliad. Yn fwyaf arbennig, hoffwn dalu teyrnged i'r teulu Baldwin am eu gwaith caled, eu dycnwch a'u hymroddiad i ymgyrch mor bwysig a phersonol iawn. Mae Beth a'r teulu yn gwylio o'r oriel heddiw, a gwn eu bod yn teimlo'n gryf iddi fod yn ymdrech gan dîm. Ni allwch orfesur grym rhannu eich profiadau enbyd o golli Peter. Rydych wedi dangos cymaint o nerth a dewrder drwy gydol yr ymgyrch hon. Mae pawb ohonom yn hynod falch ohonoch, a byddai Peter mor falch hefyd. Fel llawer o rai eraill, cefais fy nghyffwrdd gan straeon plant a gafodd eu hachub am eu bod wedi gallu cael diagnosis o ganlyniad i'ch gwaith, felly diolch i chi, Beth, a'ch teulu, am bopeth a wnaethoch yn enw Peter. Mae'n waddol wirioneddol hardd.
Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i'r adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau, a bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi rhoi'r ystyriaeth y maent yn eu haeddu i'r argymhellion. Diabetes math 1 yw'r cyflwr awto-imiwn mwyaf cyffredin yn y DU. Amcangyfrifir bod tua 19,000 o bobl yn byw gyda diabetes math 1 yng Nghymru. Mae llawer o bobl yn byw'n dda gyda diabetes math 1 am flynyddoedd lawer. Mae nifer dirifedi o bobl hefyd wedi dangos nad yw math 1 yn rhwystr i fyw bywydau egnïol, o'r unigolion sy'n rhedeg marathonau i Team Oarstruck o Gaerllion sy'n rhwyfo Cefnfor Iwerydd, y ras rwyfo anoddaf yn y byd.
Mae rheolaeth dda ar y cyflwr yn allweddol i fyw'n dda gyda math 1, ac ni ellir cyflawni hyn oni bai bod yr unigolyn yn gwybod ei fod yn dioddef ohono. Mae diagnosis yn gwbl hanfodol. Ac eto mae un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn cael diagnosis o fath 1 yn ddiweddarach nag y gallai fod yn ei gael. Rwy'n siŵr y bydd pawb yma'n cytuno bod y nifer honno'n rhy uchel. Gwyddom fod gwelliannau wedi bod yn ein gwasanaeth iechyd. Clywais yn ddiweddar am waith a wneir ar system adrodd newydd a fydd yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o ddiagnosis hwyr. Drwy rannu gwybodaeth ar draws y timau, rwy'n gobeithio y cymerir mantais ar gyfleoedd i wneud diagnosis yn gynharach yn y dyfodol. Hefyd, clywais am waith ymchwil rhagorol sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru ar y posibilrwydd y gallai dulliau atgoffa digidol mewn gofal sylfaenol wella cyfraddau diagnosis cynharach. Gobeithio y bydd hyn yn llwyddo i gynorthwyo meddygon i wneud diagnosis cynnar.
Gallwn hefyd fod yn falch fod llwybr newydd wedi'i gyflwyno ledled Cymru, fel y nodwyd yn yr ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gydnabod y gwaith ardderchog a wneir gan y Rhwydwaith Diabetes i Blant a Phobl Ifanc ar wireddu hyn. Bydd gweithredu'r llwybr yn allweddol i'w lwyddiant, ac rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i geisio sicrwydd gan y saith bwrdd iechyd ei fod yn cael ei fabwysiadu ac y bydd gofal sylfaenol ac eilaidd yn gweithio gyda'i gilydd ar ddarparu'r llwybr newydd.
Ond fel arfer, fe ellir gwneud mwy. Credaf y gallwn oll gytuno bod pob plentyn, pob unigolyn ifanc, yn haeddu'r cyfle i fyw bywyd hapus ac iach, gyda neu heb ddiabetes. Mae'r ymgyrch 4T—teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach—i godi ymwybyddiaeth o symptomau math 1, wedi cael derbyniad da gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd ac ysgolion, ond ni all unrhyw sefydliad, meddyg neu deulu ddatrys hyn ar eu pen eu hunain. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo eto i weithio gyda byrddau iechyd a sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod yr ymgyrch 4T yn cael ei hyrwyddo ym mhob lleoliad priodol.
Cafwyd nifer o astudiaethau a edrychai ar effeithiolrwydd ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, ac mae eu canfyddiadau'n awgrymu mai'r ymgyrchoedd a dargedir fwyaf sy'n cael yr effaith fwyaf. Gall negeseuon syml achub bywydau, a heddiw mae'r ddeiseb yn galw am weithredu, a gall Cymru arwain y ffordd.