Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 3 Hydref 2018.
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ymddiheuro i'r Siambr am fod yn hwyr ar gyfer munud gyntaf y ddadl hon, ond yn arbennig i deulu Peter am golli rhan o ddadl bwysig ac emosiynol iawn am y gwaith a wnaed gan Aelodau Cynulliad sy'n ystyried eu deiseb, ac yn wir nid yn unig yr ymateb gan y Llywodraeth ond yn bwysicach ymateb ein gwasanaeth iechyd gwladol. Ac felly hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau a phob Aelod sydd wedi cyfrannu heddiw, boed yn aelodau o'r pwyllgor neu beidio. Cafodd llawer o bobl eraill eu taro nid yn unig gan stori Peter Baldwin, ond mewn gwirionedd gan y penderfyniad hwnnw wedyn i geisio gwneud yn siŵr fod penderfyniad y teulu i sicrhau ei fod yn arwain at welliant yn gyrru ymddygiad gwleidyddion yn y lle hwn a thu hwnt.
Ac mae hynny wedi cael ei helpu gan waith y deisebydd a'r teulu ehangach, ynghyd â Diabetes UK Cymru, i helpu i wella ymwybyddiaeth o ddiabetes math 1 ymhlith y cyhoedd ac yn hollbwysig, ymhlith gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yng Nghymru. A gall pob un ohonom gydymdeimlo â galar a gofid teulu Peter Baldwin, ond yn fwy na hynny, fel pob Aelod arall sydd wedi siarad a'r rhai nad ydynt wedi siarad, rwy'n edmygu'n fawr y dewrder a ddangosodd y teulu wrth sôn am eu profiad, sy'n anodd ac yn boenus ynddo'i hun, ond wrth geisio gwneud gwahaniaeth i deuluoedd eraill hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi'r adroddiad a'r cynnig, a byddwn yn ei gefnogi. Ni wnaethom gefnogi'r ddeiseb wreiddiol, oherwydd diffyg tystiolaeth ynglŷn ag effeithiolrwydd y rhaglen sgrinio poblogaeth. A dyna bwynt sydd wedi cael ei gydnabod trwy gydol oes y ddeiseb a gwaith y pwyllgor gan y deisebydd a Diabetes UK Cymru. Fodd bynnag, rwy'n croesawu'r argymhellion penodol a wnaed gan y pwyllgor ar ôl eu hymchwiliad. Unwaith eto, fel Aelodau eraill, rwy'n cydnabod pwysigrwydd canfod diabetes math 1 yn gynnar ac fel y dywedwyd, mae'n cael sylw amlwg yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru. Felly, roeddwn yn falch o dderbyn pob un o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn llwyr neu mewn egwyddor. Maent yn sicr yn cyd-fynd â gwaith sydd eisoes ar y gweill neu sydd wedi'i gwblhau gan y byrddau iechyd yng Nghymru i wella gofal diabetes.
Rydym yn derbyn argymhelliad 1 mewn egwyddor. Mae'r Llywodraeth yn cymeradwyo argymhellion y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, ac mae'r sefydliad hwnnw'n arwain gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a sefydliadau ar ganfod diabetes ac archwilio cleifion yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Ond nid yw eu canllawiau'n argymell y dylid gofyn i bob plentyn sâl ynghylch symptomau diabetes math 1. Fel y dywedodd y cadeirydd yn ei gyflwyniad, rhaid i glinigwyr ddefnyddio'u crebwyll clinigol, yn seiliedig ar eu hyfforddiant a'r canllawiau sydd ar gael, i arwain archwiliadau o blant sâl, ac mae hynny'n cynnwys yr hyfforddiant ychwanegol y byddwn yn ei gyflwyno drwy'r gwasanaeth. Ac mae hynny'n gyson â thystiolaeth Diabetes UK Cymru y dylid gwneud profion pigo bys os bydd unrhyw un o'r symptomau'n bresennol.
Mae gan y byrddau iechyd yng Nghymru brosesau rheolaidd ar gyfer dosbarthu canllawiau NICE, ac mae clinigwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas â defnyddio canllawiau o'r fath. Yn ogystal, dosbarthwyd y llwybr atgyfeirio i bob bwrdd iechyd, ac mae hwnnw'n atgyfnerthu'r meini prawf a'r dull o asesu plant a phobl ifanc yr amheuir bod ganddynt ddiabetes. Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yng Nghymru yn ein hymrwymo i ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus a arweinir gan Diabetes UK Cymru fel partneriaid yn y grŵp gweithredu ar ddiabetes, a chyflawnwyd hynny ar y cyd â Diabetes UK Cymru, y deisebydd a'r teulu ehangach.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 2, gan fod llwybr atgyfeirio cenedlaethol yn seiliedig ar arweiniad NICE, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o ddeunyddiau a ddatblygwyd gan Diabetes UK Cymru, wedi'i ddosbarthu i bob bwrdd iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn derbyn argymhelliad 3, a dyma bwynt y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato yn eu cyfraniadau. Dosbarthwyd y canllawiau ar brofion pwynt gofal i fyrddau iechyd eisoes, ac fe'u hailadroddwyd yn ddiweddar fel rhan o'r broses o ledaenu'r llwybr atgyfeirio. Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio sicrwydd gan gyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol gofal sylfaenol ynghylch argaeledd mesuryddion glwcos mewn gofal sylfaenol. Ein dealltwriaeth yw eu bod ar gael yn eang, ond mae cyfarwyddwyr meddygol cynorthwyol yn ystyried arolwg ar gyfer pob practis i gynnwys offer profion pwynt gofal o'r fath, a buaswn yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y pwynt hwn er mwyn cadarnhau bod camau ar waith i ddarparu'r sicrwydd hwn, a chanlyniadau'r ymarfer hwnnw hefyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion 4, 5 a 6. Rydym eisoes wedi ysgrifennu at y byrddau iechyd ynghylch y llwybr atgyfeirio cenedlaethol ac wrth wneud hynny, rydym wedi tynnu sylw at argaeledd deunyddiau codi ymwybyddiaeth ac e-ddysgu ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc. Mae hynny'n cynnwys hyfforddiant penodol ar gyfer meddygon teulu gan y Gymdeithas Diabetes Gofal Sylfaenol.
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhelliad 7, gan fod diagnosis o ddiabetes math 1 yn cael ei fonitro a'i adrodd i'r archwiliad diabetes pediatrig cenedlaethol.
Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 8. Eisoes dylai byrddau iechyd fod yn cofnodi diagnosis annigonol fel achosion diogelwch cleifion. Nid yw hynny'n ymwneud cymaint ag atebolrwydd, ond yn hytrach er mwyn hyrwyddo dysgu ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae o fudd inni gael gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n agored pan fydd pethau wedi mynd o chwith, i ddysgu, ac i geisio gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau nifer a chael gwared ar achosion o'r fath yn y dyfodol.
Rydym yn derbyn argymhelliad 9 mewn egwyddor, a rhoddwyd sylw i hyn yng nghyfraniad cychwynnol y Cadeirydd. Darparu gwybodaeth am symptomau i rieni yn ystod beichiogrwydd neu'r blynyddoedd cynnar am yr hyn y cydnabyddir ei fod yn gyflwr cymharol anghyffredin—ac fel arfer daw'n amlwg gryn dipyn ar ôl geni'r plentyn. Felly, mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn dangos ei fod yn annhebygol o fod o gymorth i nodi diabetes math 1 yn gynharach. Fodd bynnag, mae Diabetes UK Cymru wedi cyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus, fel yr ymrwymwyd i'w wneud yn y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes, ac rydym am helpu i dynnu sylw rhieni at y symptomau perthnasol.
Rydym hefyd yn derbyn argymhelliad 10 mewn egwyddor. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i hyrwyddo'r 4T: teimlo'n sychedig, teimlo'n flinedig, tŷ bach, teneuach. Eisoes rydym wedi'i gynnwys yn rhan o'r llwybr atgyfeirio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Fodd bynnag, o ran creu ymwybyddiaeth yn y blynyddoedd cynnar a lleoliadau addysg, rhaid inni gofio nad oes tystiolaeth bob amser i gefnogi honno fel ymgyrch effeithiol ar gyfer canfod cyflyrau fel diabetes math 1 yn gynnar. Mae astudiaeth ddiweddar o Seland Newydd wedi dangos nad oes unrhyw effaith yn dilyn ymgyrch wybodaeth gyhoeddus ddwy flynedd o hyd, ond byddwn yn parhau i edrych am ffyrdd o sicrhau bod staff priodol, gan gynnwys rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, fel ymwelwyr iechyd a nyrsys ysgol, yn ymwybodol o'r adnoddau allweddol a gyhoeddwyd gan Diabetes UK Cymru ac eraill, ac wrth gwrs, yr argymhellion NICE perthnasol.
Rwyf am orffen, unwaith eto, drwy gydnabod ein bod ni yma heddiw oherwydd trasiedi bersonol iawn, ond yn fwy na hynny, oherwydd penderfyniad teulu Peter Baldwin i wneud gwahaniaeth, ac eisoes maent wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Byddwn yn parhau i wrando ar y dystiolaeth ac i ddysgu o'r hyn yr ydym eisoes wedi ymrwymo i'w wneud, ac edrychaf ymlaen at graffu pellach ar yr hyn yr ydym ni a'n GIG yn ei wneud ac y byddwn yn ei wneud, ac yn hollbwysig, i weld pa wahaniaeth a wnaethom a beth arall y gallwn ei wneud.