Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 3 Hydref 2018.
Wel, mae yna rai cyflwyniadau grymus y prynhawn yma—yn y ddadl flaenorol ac yn hon. Rwy'n ddiolchgar i Lynne Neagle am agor y ddadl bwysig hon oherwydd rwy'n siarad gyda balchder ac anrhydedd yn y ddadl hon i gefnogi'r cynnig ac i ddathlu'r holl waith a wnaed yn y maes anodd hwn. Ond mae angen gwneud cymaint mwy i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr holl nyrsys, y meddygon, y bydwragedd, y cwnselwyr profedigaeth, yr unedau newyddenedigol a'r holl elusennau. Mae gwasanaethau dan gymaint o bwysau, ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n llawn edmygedd o bawb ohonoch sy'n darparu gwasanaethau allan yno.
Ar 9 Tachwedd 1985, bu farw ein mab cyntafanedig, Huw, 40 munud ar ôl iddo gael ei eni, ym mreichiau fy ngwraig. Cawsom un darlun Polaroid cyflym ohono. Cynhaliwyd archwiliad post mortem, ac ychydig ddyddiau wedyn, yr angladd. Mae'r cyfan ychydig yn aneglur bellach, oherwydd ar ôl yr angladd, bu'n rhaid imi fynd yn syth yn ôl i weithio yn y feddygfa yn Fforest-fach. Mae Huw wedi'i gladdu mewn bedd heb ei farcio ym mynwent Treforys heddiw, fel cymaint o fabanod bach eraill.
Ar y pryd, ni allai neb siarad â ni am y trychineb hwn. Aeth ein teuluoedd i'w cregyn. Cafodd fy staff yn y feddygfa gyfarwyddwyd penodol gan y meddygon teulu a oedd yn bartneriaid i mi i beidio â sôn am Huw. Ond am gwnselydd profedigaeth gwych a gawsom. Mae'n gwneud i chi feddwl, 'Pam ni? Pam Huw?', a gallwch lithro i hunandosturi, neu gallwch ddweud wrthych eich hun, 'Nid yw'r drasiedi hon yn mynd i ddiffinio fy holl fywyd.' Yn sicr, fe wnaeth oes fer Huw i mi feddwl am fywyd, ei ystyr, a beth y gallwch ei gyflawni mewn 40 munud, beth y gallwch ei gyfrannu i'r ddynoliaeth mewn cynhesrwydd, cydymdeimlad a charedigrwydd na chafodd pobl eraill, fel Huw, erioed mo'r cyfle i'w gyfrannu—dim ond rhoi hwb i mi gyfrannu ar ei ran yntau hefyd.
Nid yw wedi'i anghofio. Mae ein gweithredoedd ni fel ei rieni yn deyrnged iddo ef; ei fywyd na allai gyfrannu, ond a ysgogodd eraill. Deuthum yn feddyg gwell ar ôl y trychineb hwn. Roedd fy nghwnsela bellach wedi'i seilio ar ddyfnder profiad wedi'i fyw yn hytrach na'i godi o'r llyfrau addysg. Oherwydd nad yw pobl yn gwybod beth i'w ddweud mewn trasiedi, fel pan oeddent yn wynebu fy ngwraig a minnau, rwy'n dweud wrth bobl yn awr—nid ydynt yn gwybod beth i'w ddweud, ac rwy'n dweud, 'Dywedwch, "mae'n ddrwg gennyf", dyna i gyd. Peidiwch â cherdded i ffwrdd. Peidiwch â throi eich cefn. "Mae'n wir ddrwg gennyf." Nid oes geiriau', dyna rwy'n ei gynghori, 'A "fe wrandawaf pan fyddwch eisiau siarad."' Peidiwch byth â throi eich cefn ar rywun sydd wedi wynebu trasiedi.
Fe heriodd Huw fi, yn ei 40 munud, i wneud ei ran yntau, ac i beidio â pharhau i fod yn ddioddefwr, ond i fyw fel teyrnged iddo ef. Dilynodd tri phlentyn bendigedig ac ar 9 Tachwedd y llynedd, ganwyd ein hŵyr cyntaf, Dyfan.
I gloi, fel ACau Plaid Cymru rydym yn aml yn dweud ein bod yn sefyll ar ysgwyddau cewri hanes Cymru yma yn y Senedd, gan gadw fflam Cymru'n fyw. Rydym hefyd yn sefyll ar ysgwyddau'r rheini a fyddai wedi bod wrth eu bodd yn gwneud cyfraniad, ond na allodd wneud hynny. Diolch yn fawr.