7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Colli Babanoad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 3 Hydref 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jayne Bryant Jayne Bryant Labour 4:22, 3 Hydref 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gael cyfle i siarad ar y cynnig hwn cyn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod. Nid oes modd gorbwysleisio'r effaith y mae colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn ei chael. Gall teimlo eich bod yn gallu neu eich bod wedi cael caniatâd i alaru fod yn anhygoel o anodd, yn enwedig yn y misoedd a'r blynyddoedd wedyn. Dywedodd un fam wrthyf fod gwasanaethau coffa arbennig yn dod â chymaint o gysur oherwydd gall teuluoedd ganiatáu i'w hemosiynau ddod allan ar yr adegau hynny a choffáu bywyd y baban. Bydd gwasanaethau'n cael eu cynnal ledled Cymru yr wythnos nesaf i helpu i ddod â theuluoedd sydd wedi profi colledion tebyg at ei gilydd.

Fel y dywed y cynnig heddiw, mae'n hanfodol i deuluoedd yr effeithir arnynt gan golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban allu cael gwasanaethau a chymorth priodol, ac rydym eisoes wedi clywed bod yna anghysondeb o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, mae gennym grwpiau cymorth rhagorol, ac un o'r rheini yw canolfan gwnsela Beresford ar gyfer rhai sy'n colli baban yn ystod beichiogrwydd. Mae staff y ganolfan yn darparu cymorth am ddim, gwybodaeth a chymorth i deuluoedd ar draws de Cymru. Yn ogystal â thrallod eithafol, gall marwolaeth baban neu golli baban yn ystod beichiogrwydd achosi teimladau o ddicter, pryder, panig a diffyg cwsg. Mae'r teimladau hyn yn rhan normal o alaru, ac mae'r sesiynau'n caniatáu i rieni ollwng stêm. Mae'r ganolfan yn cynnig y gofod diogel y mae mamau a thadau cymaint o'i angen.

Nid yw mynediad uniongyrchol i ofal a chymorth byth yn mynd i leddfu galar rhieni, ond gall eu helpu i ymdopi ar adeg ofnadwy. Siaradais yn ddiweddar â mam a ddywedodd wrthyf ei bod hi'n hynod o ddiolchgar i staff Ysbyty Brenhinol Gwent am y modd yr edrychodd ar ei hôl hi a'i gŵr pan fu farw eu baban. Bydd y sensitifrwydd a'r tosturi diffuant a ddangoswyd i'r ddau riant yn aros gyda'r ddau am byth. Dywedodd mam arall wrthyf nad oedd hi'n gwybod sut y byddai wedi dal ati pe na bai wedi cael plentyn eisoes.

Nid yw dyfnder y teimlad yn lleihau dros amser. Dro'n ôl siaradais â phâr sydd newydd nodi hanner canrif ers geni eu baban marw-anedig. Er na fydd eu baban byth yn mynd yn angof, ni allent fynd ati i lunio coflech tan yn ddiweddar. Nid yw'r rhieni, a aeth ymlaen i gael plant eraill, wedi anghofio eu merch a fu farw. Ar y pryd, dywedwyd wrthynt am ddal ati a dod dros y peth, ond maent bellach yn teimlo'u bod yn gallu siarad am eu galar yr holl flynyddoedd hyn yn ddiweddarach. Rwy'n talu teyrnged i fy nghyd-Aelod, Dai Lloyd, am ei gyfraniad personol heddiw, a oedd mor bwerus.

Nid oes cymaint â hynny o amser er pan nad oedd pobl yn siarad am golli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban. Ceir teuluoedd a rhieni ledled Cymru sydd wedi bod yn galaru'n dawel ers degawdau. Bellach, dylai codi ymwybyddiaeth ddod â rhywfaint o gysur i deuluoedd, gobeithio, er na fydd dim yn gallu dileu'r boen. Mae'n bwysig i famau a thadau gael amser i alaru a pheidio â theimlo bod yn rhaid iddynt ddal ati fel pe na bai dim o'i le. Mae mynediad at lefel ragorol o ofal profedigaeth ar gyfer pob rhiant ar ôl colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth babi yn hanfodol.

Mae'r elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion, Sands, yno i helpu rhieni i alaru ac i'w cefnogi drwy eu hadegau tywyllaf. Caiff grŵp Sands Casnewydd ei redeg gan rieni mewn profedigaeth sy'n anelu i helpu pobl eraill sy'n mynd drwy drasiedïau tebyg i'r rhai a gawsant hwy eu hunain. Dosberthir pecynnau cymorth a blychau cof yn y cyfarfodydd misol, sydd, fel y rhai yng nghanolfan Beresford, yn fan diogel ar gyfer rhieni mewn profedigaeth. Ariannwyd yr ystafell brofedigaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent gan Sands, ac mae'r cyfleuster hwn wedi llwyddo i helpu llawer o deuluoedd. Grŵp hynod o ymroddedig o wirfoddolwyr yw Sands sy'n darparu gwasanaeth amhrisiadwy.

Er bod mwy o gymorth ar gael i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn awr nag a oedd o'r blaen, yn sicr mae mwy i'w wneud. Yn Lloegr a'r Alban, mae gweithwyr iechyd proffesiynol a grŵp o elusennau colli babanod wedi datblygu dull newydd o wella gwasanaethau profedigaeth gan ddefnyddio set o safonau gofynnol. Rwy'n gobeithio y gellir mabwysiadu'r rhain yma yng Nghymru. Mae gwella cysondeb a pharhad gofal ar gyfer rhieni yn hollbwysig, ac rwy'n cytuno gyda'r cynnig i fabwysiadu'r llwybr gofal profedigaeth cenedlaethol. Mae hwn yn tanlinellu'r angen i holl staff y GIG sy'n dod i gysylltiad â rhieni mewn profedigaeth gael hyfforddiant gofal profedigaeth ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhywbeth y bydd GIG Cymru yn ceisio ei hwyluso.

Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn y cynigion a gyflwynwyd yn y cynnig heddiw. Byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i rieni sydd eisoes wedi cael profedigaeth a hefyd y rheini sydd, yn anffodus, yn mynd i ddioddef colli baban yn ystod beichiogrwydd neu farwolaeth baban yn y dyfodol. Rwy'n gobeithio gweld llawer o'r Aelodau'n sefyll gyda rhieni sy'n galaru i oleuo cannwyll gyda Sands yn y Pierhead yr wythnos nesaf. Mae'n hanfodol fod y rheini sydd angen cymorth bob amser yn gallu cael y gofal gorau posibl y gellir ei gynnig.